Oriau Agor 2024
1 Ionawr - 24 Mawrth
Ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul, 10:30yb – 3:30yp.
27 Mawrth - 7 Ebrill (Gwyliau'r Pasg)
Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10:30yb - 4yp.
11 Ebrill - 21 Gorffennaf
Ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul, 10:30yb - 4yp.
24 Gorffennaf - 1 Medi
Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10yb - 5yp.
5 Medi - 20 Hydref
Ar agor o ddydd Iau i ddydd Sul, 10:30yb - 4yp.
Oriau agor o 21 Hydref i'w cadarnhau.
Unrhyw gwestiynau? Ffoniwch ni (yn ystod oriau agor): 01554 742220 neu ffoniwch 01267 228696 ar bob adeg arall.
![](/media/3hdc5dqr/quality-assured-land-cmyk.jpg)
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Sut i ddod o hyd i ni
Amgueddfa Parc Howard, Heol Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ. Mae'r Amgueddfa yn adeilad mawr, Eidalaidd y tu mewn i amgylchedd hardd parc cyhoeddus.
Teithio Cynaliadwy
Mae Parc Howard ar lwybr bysiau cyhoeddus, gydag arosfannau bysiau ar hyd Heol Felinfoel y tu allan i'r parc. Mae gwasanaethau rheolaidd o Gaerfyrddin (rhif 197) yn gollwng ger y parc. Mae yna hefyd wasanaethau rheolaidd o Abertawe (rhif X11) sy'n gollwng ar Stryd Andrew, Llanelli (10 munud ar droed i'r Amgueddfa).
Mae’r orsaf drenau agosaf i’r Amgueddfa oddi ar y B4304 yn Llanelli (30 munud ar droed i’r Amgueddfa).
Mae yna hefyd ddigonedd o lwybrau teithio llesol yn Llanelli a’r cyffiniau sy’n cysylltu â llwybrau fel Llwybr Arfordir Cymru a’r rhwydwaith beicio helaeth yn ne Cymru.
Parcio
Nid oes lle i barcio yn yr Amgueddfa ei hun oherwydd ei leoliad o fewn parc cyhoeddus.
Mae meysydd parcio talu ac arddangos o amgylch Llanelli. Yr agosaf at yr Amgueddfa yw Thomas/Edgar Street, sydd 8 munud i ffwrdd ar droed. Dewch o hyd i feysydd parcio eraill yn yr ardal ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Cyfleusterau
- Mynedfa hygyrch a thoiledau
- Lifft i'r orielau llawr cyntaf
- Cyfleusterau newid babanod
- Siop anrhegion amgueddfa
- Te, coffi a lluniaeth a byrbrydau eraill ar gael
- Man chwarae a meinciau picnic o amgylch y parc
Croeso i'r Imaginarium
Ysbrydoli ein dyfeiswyr nesaf yw ein cenhadaeth yn Amgueddfa Parc Howard.
Mae ein harddangosfeydd newydd sbon yn arddangos rhai o'r syniadau a'r dyfeisiadau gorau i ddod allan o Lanelli. Mae llawer yn gwybod am olwyn sbâr gyntaf y byd - y Stepney - ond oeddech chi'n gwybod bod sylfaenydd Specsavers wedi ei eni yn y dref? Mae bob amser wedi bod yn lle o newid ac arloesi.
Nid dyna'r cyfan. Rydym yn eich gwahodd i archwilio, trafod a chwarae gyda'ch gilydd yn ein horiel Imaginarium, gan mai dyma'r ffordd orau i ddysgu a gwneud synnwyr o'r byd. Roedd chwarae, dychymyg a chreadigrwydd yn dylanwadu ar deganau, diwylliant poblogaidd a hyd yn oed darganfyddiadau gwyddonol. Taniwch eich dychymyg trwy ddatrys y pos pyramid. Neu syllu mewn rhyfeddod ar ddelweddau hardd y caleidosgop. Efallai hyd yn oed darganfod dirgelwch Pepper's Ghost!
Amgueddfa wedi'i Thrawsnewid
Mae gwaith adnewyddu helaeth wedi trawsnewid Amgueddfa Parc Howard yn lle i ddarganfod a rhyfeddu. Mae'n amgueddfa deulu-gyfeillgar gyda chymuned a chreadigrwydd yn ganolog iddi.
Ailagorodd y llawr gwaelod i ymwelwyr ym mis Rhagfyr 2023 ar ôl dwy flynedd o waith adnewyddu. Crëwyd yr arddangosfeydd a ddadorchuddiwyd trwy brosiectau cymunedol, gan amlygu straeon pobl Llanelli.
Cafodd y plasty Eidalaidd trawiadol ei hun ei weddnewid hefyd. Cafodd y tŵr, y to a’r porth eiconig eu hadfer ac uwchraddiwyd systemau drwyddi draw. Mae yna hefyd dderbynfa croesawgar a hygyrch i ymwelwyr gyda siop anrhegion yn llawn anrhegion chwareus a chofroddion lleol. Dyma hefyd y lle i fynd i ddod o hyd i ddiodydd poeth, byrbrydau a hufen iâ.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi ariannu’r prosiect uchelgeisiol ac yn parhau i gydweithio i ddarparu profiad llawn hwyl a chynhwysol i ymwelwyr i bawb.
![](/media/qu4d0yuk/web-banners-what-s-on.png)
![Learning at Parc Howard](/media/pyjpesjn/love-tile-image.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Dysgu ym Mharc Howard
Yn ystod y cyfnod clo buom yn arbrofi gyda gwneud adnoddau digidol i ysgolion. Gobeithio eich bod yn eu hoffi.
![Fruit on a plate](/media/uk1dc1up/ph-fruit-dsc_0648-500-x-500.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Lloerig am y llestri
Gan Barc Howard y mae’r casgliad cyhoeddus mwyaf o Grochenwaith Llanelly. Bydd ein harddangosiad newydd yn edrych ar fywydau’r bobl a wnaeth ac a ddefnyddiodd y brand enwog.
![Oil painting portrait of James Buckley](/media/lswpaese/ph-j-buckley-1988_0125-500-x-500.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
James Buckley
Roedd James Buckley yn achosi gofid i’w deulu, yn gofyn am arian byth a beunydd. Dilynwch y ddolen isod i weld portread arall o’r mentrwr dylanwadol hwn
![Hospital](/media/zy1j24gv/ph-2003-2331-500-x-500.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
A WYDDOCH CHI?
Ar un cyfnod roedd Parc Howard yn lle diogel i ffoaduriaid o Wlad Belg ac yn ysbyty i filwyr Prydeinig oedd wedi anafu.
![Amgueddfa Sir Gaerfyrddin](/media/q5obv4m2/carmarthenshire-museum-min.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Dewch i ddarganfod stori Sir Gâr yn amgylchedd hardd Abergwili, hen balas a gerddi esgobion Tyddewi.
![Cartref Dylan Thomas](/media/wc5lbyxf/dylan-thomas-boathouse.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Cartref Dylan Thomas
Dewch i ddarganfod cartref a Sied Ysgrifennu eiconig Dylan Thomas, lle cafodd y bardd adfywiad creadigol.
![Amgueddfa Cyflymder](/media/z15ihkci/135132-gower-aonb-worms-head-recovered.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno
![Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli](/media/qypnhuru/kidwelly-industrial-museum-min.jpg?width=500&height=500&mode=crop)
Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Yn enwog am ei chastell lleol, mae Cydweli hefyd yn gartref i weithfeydd tunplat hynaf Ewrop. Er bod yr Amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gallwch chi gael newyddion am ddatblygiad y lle hanesyddol hwn yma.
Ble’r ydym
Keys
-
Abergwili SA31 2JG
-
Felinfoel Road Llanelli SA15 3LJ
-
Pendine SA33 4NY
-
Kidwelly SA17 4LW
-
Laugharne, SA33 4SD