Skip to main content

Ffoaduriaid a dynion wedi anafu

Am mai yn 1912 y rhoddwyd yr eiddo’n rhodd i’r dref, torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar draws eu cynlluniau i ddatblygu’r tŷ a’r tir er budd y cyhoedd. Yn 1914, roedd Llanelli yn un o’r mannau niferus hynny a gynigiodd le diogel i bobl o Wlad Belg oedd yn dianc rhag ymosodiad yr Almaenwyr ar eu gwlad. Rhoddwyd cartref i lawer o deuluoedd ym Mharc Howard, yn cynnwys cwpwl oedd i fod i briodi ond yr amharwyd ar eu cynlluniau gan y rhyfel. Priododd y ddau ym mis Tachwedd a thalwyd am eu gwledd briodas yn y plasty gan yr Arglwyddes Howard Stepney.

 

Yna yn 1915 daeth Parc Howard yn Ysbyty Cynorthwyol y Groes Goch i filwyr wedi anafu. Efallai y byddwch yn gallu adnabod rhai o’r ystafelloedd a gafodd eu defnyddio fel wardiau yn y lluniau ar y dudalen hon. Roedd deunaw o nyrsys Croes Goch yn gofalu am fwy na deugain o gleifion ac roedd yr ysbyty’n weithredol hyd 1921.

 

Yna rhoddwyd y tŷ ar brydles i’r Pwyllgorau Pensiynau Rhyfel am dair blynedd i adfer iechyd milwyr anabl. Hwn oedd eu carreg gamu rhwng yr ysbyty a dychwelyd i fyw gartref. Efallai mai diddordeb yr Arglwyddes Howard Stepney mewn cefnogi anghenion pobl y dref a arweiniodd at ddefnyddio Parc Howard fel hyn.