Skip to main content

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli

Mae Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli ar gau ar hyn o bryd i wneud gwaith hanfodol. Gwyddom fod llawer o bobl yn siomedig nad ydynt wedi gallu ymweld. Ond, mae’r gwelliannau’n angenrheidiol i ddiogelu’r dreftadaeth hon sy’n rhyngwladol bwysig, ac i sicrhau ei dyfodol. Mae’r gymuned leol yn meddwl y byd o’r amgueddfa a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd.

 

Mae’r amgueddfa’n diogelu un o’r gweithiau tunplat cyntaf ym Mhrydain, a’r gwaith tunplat hynaf yn unrhyw le yn Ewrop erbyn hyn. Am ei fod yn dal i oroesi, mae gan yr hen waith le arbennig yn stori Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cafodd bron i hanner tunplat y byd ei weithgynhyrchu yng Nghymru yn y 19eg ganrif, a llawer ohono yn Sir Gâr.

 

Tunplat oedd plastig ei ddydd a byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth fawr o gynhyrchion cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys teganau plant, baddonau, cynwysyddion bwyd ac offer cegin. Potiau a sosbenni a wnaed yn Llanelli a gymerodd y Capten Robert Falcon Scott ar ei gyrch olaf ac angheuol i’r Antarctig yn 1910 -1912.

 

Cychwynnodd y gwaith o weithgynhyrchu tunplat yng Nghydweli yn 1737 ar safle hen efail haearn, a pharhaodd tan 1941. Dechreuodd fel gwaith bach ac ehangodd drwy gydol y 19eg ganrif i ddod yn gyflogwr mwyaf ardal Cydweli. Yn 1881, roedd 252 o ddynion a bechgyn a 35 o fenywod yn gweithio yno, ac roedd llawer ohonynt wedi eu geni’n lleol. Ond am fod y diwydiant yn ehangu, denwyd pobl newydd i’r ardal hefyd gan beri i’r dref dyfu.

 

Mae’r amgueddfa’n esbonio’r broses felin bacio, lle byddai trenau’n dod â bariau o haearn gyr i mewn ac y byddai peiriannau stêm trwm, a phrosesau gwres a chemegol, yn troi’r bariau’n ddalennau tun. Byddai blychau trwm o ddalennau’n cael eu cludo i weithiau stampio lle byddent yn cael eu gwasgu i greu cynhyrchion, a byddai llawer ohonynt yn cael haen enamel arnynt. Cawsai nwyddau tunplat Prydeinig eu hallforio dros y byd i gyd.

Y newyddion diweddaraf

Ble’r ydym

Keys

  • Abergwili SA31 2JG

  • Felinfoel Road Llanelli SA15 2LJ

  • Pendine SA33 4NY

  • Kidwelly SA17 4LW

  • Laugharne, SA33 4SD