Skip to main content

Amgueddfa Cyflymder

Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan sy’n rhyngweithiol, addysgiadol a llawn hwyl? Yna does dim angen edrych ymhellach!

 

Mae’r Amgueddfa Cyflymder newydd sbon yn adrodd stori eiconig Traeth Pentywyn a’r recordiau chwaraeon enwog a gafodd eu gosod yma, mewn ffordd brofiadol a rhyngweithiol.

 

Byddwch yn ymwybodol y gall ein harddangosfeydd newid. Os hoffech weld gwrthrych penodol (hyd yn oed Babs!), yna ffoniwch neu e-bostiwch yn gyntaf.

Oriau Agor

20 Chwefror i 24 Mawrth

Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10yb - 4yp.

 

Ar gau dydd Mawrth, 19 Mawrth.

 

25 Mawrth i 31 Mawrth (Gwyliau'r Pasg)

Ar agor bob dydd, 10yb - 4yp.

 

1 Ebrill i 7 Ebrill (Gwyliau’r Pasg)

Ar agor bob dydd, 10yb - 5yp.

 

9 Ebrill i 30 Mehefin

Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10yb - 5yp.

 

Gall amseroedd agor newid o 1 Gorffennaf ymlaen.

 

Gall amseroedd agor amrywio ar gyfer diwrnodau digwyddiadau.

 

Unrhyw cwestiynau? Ffoniwch ni: 01267 224611

 

Prisiau Mynediad

Mae yna docynnau dydd a thocynnau crwydro 7 diwrnod ar gael, i roi digon o gyfle i chi gael gweld yr ardal.

 

Cost y tocynnau yw £7 i oedolion, £6 gyda gostyngiad (myfyrwyr a phobl ag anabledd yn unig), a £4 i blant (5-18 oed).

 

Mae gennym hefyd docyn dydd 4+ hyblyg, sy’n cynnig gostyngiad o 10% i deulu neu grŵp bach o bedwar neu fwy o bobl.

 

Mae'r tocyn crwydro 7 diwrnod yn rhoi ymweliadau diderfyn â'r Amgueddfa Cyflymder a Chartref Dylan Thomas yn Nhalacharn am 7 diwrnod. Cost y tocynnau wythnosol yw £10 i oedolion, £9 gyda gostyngiad, a £5.50 i blant (5-18 oed).

Mae gan y traeth bron i 100 mlynedd o hanes o ran gosod recordiau am gyflymder tir; gan ddechrau yn y 1920au gyda Syr Malcom Campbell a’i gar ‘Blue Bird’ ac, yn fwy diweddar, yr actor Idris Elba yn torri record ‘Flying Mile’ Campbell mewn Bentley Continental GT Speed ​​yn 2015.

 

O arddangosfeydd sy’n teithio o gwmpas y wlad ac yn cynnwys gwrthrychau mawr fel y car rasio byd-enwog ‘Babs’ i’r arddangosfeydd rhyngweithiol sydd i’w gweld drwy'r Amgueddfa gyfan, cewch eich tywys ar daith lle byddwch chi’n gallu profi’r cyffro o rasio ar hyd Traeth Pentywyn. Caewch eich llygaid a byddwch yn gallu teimlo’r gwynt ar eich wyneb, clywed sŵn yr injan a theimlo’r car wrth iddo symud dros byllau cudd yn y tywod.

 

Os yw hwn yn swnio fel eich diwrnod allan delfrydol, mae gennym fwy o wybodaeth isod.

Ein Harddangosfeydd

Mae gennym ni ddigonedd o arddangosfeydd cyffrous i chi eu mwynhau yn yr Amgueddfa. Mae llawer yn rhyngweithiol ac yn llawer o hwyl hefyd!

 

 

Mae rhai o'n gwrthrychau yn mynd a dod oherwydd eu bod yn cael eu benthyg yn garedig i ni gan sefydliadau eraill. Mae Babs yn un o'r gwrthrychau teithio hynny, sy'n eiddo i Ymddiriedolaeth Babs. Nid yw hi a gwrthrychau eraill yma bob dydd.

 

 

Os ydych chi eisiau bod yn siŵr o weld gwrthrych neu arddangosfa benodol ar eich ymweliad, yna cysylltwch â ni yn gyntaf.

Arwain y byd

Mae lleoliad yr amgueddfa yn hollol syfrdanol ac yn eistedd ar ymyl y traeth enwog. Mae pentref bychan prydferth Pentywyn wedi bod wrth galon recordiau byd ac arloesedd yn y byd moduro ers canrif bellach. Dysgwch fwy am sut daeth Traeth Pentywyn i ymddangos ar lwyfan y byd yma: Land Speed Records | Pendine Community Council (pendinesands.org)

Cyrchfan i dwristiaid sydd wir yn werth ei gweld

Mae’r Amgueddfa Cyflymder yn hynod falch o fod yn rhan o raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod yr Amgueddfa yn un o’r 13 o gyrchfannau y mae’n rhaid eu gweld ledled Cymru. I ddarganfod mwy am hyn ac am y mentrau eraill a helpodd i gyflwyno’r rhaglen, cliciwch yma:

Lleoliad arbennig fydd yn gwneud argraff ar eich gwesteion

Mae’r gofod digwyddiadau pwrpasol sydd wedi’i leoli ar lawr cyntaf yr Amgueddfa yn cynnwys ffenestr enfawr sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd, gyda golygfeydd unigryw o draeth saith milltir o hyd Pentywyn.

 

Gellir trefnu'r ystafell 64m² mewn fformat ystafell fwrdd (20 o bobl) neu fformat theatr (50 o bobl), gyda bleinds awtomatig fydd yn addasu’r ystafell a’i pharatoi ar gyfer fideo-gynadledda, cyflwyniadau, neu ffrydio byw. Mae hygyrchedd yr ystafell, yn ogystal â’i dodrefn cyfoes, cegin fach breifat, WiFi am ddim a system aerdymheru yn gwneud yr ystafell yn addas ar gyfer ystod o swyddogaethau. Mae modd darparu lluniaeth yn yr ystafell, neu gallwch archebu cinio ymlaen llaw i'w fwynhau ym mwyty'r Caban.

 

Rydym yn hapus i weithio gyda chi i greu'r digwyddiad perffaith. Cysylltwch â ni ar info@cofgar.wales i drafod eich gofynion, neu llenwch y ffurflen gyswllt yma

Dyfodol Cynaliadwy

Mae CofGâr a'r Amgueddfa Cyflymder yn ymwybodol o oblygiadau amgylcheddol moduro. Mae ein nodau amgylcheddol i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030 yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar y dyfodol yn ogystal â'r gorffennol. Mae adeilad yr amgueddfa wedi’i dylunio i leihau allyriadau carbon ac yn effeithlon dros ben. Mae’n lle addas, felly, i archwilio dyfodol ceir a symudedd trwy ffurfio partneriaethau a chynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cyfarwyddiadau

Amgueddfa Cyflymder, Marsh Road, Pentywyn. Sat Nav: SA33 4NY.  Mae'r Amgueddfa wedi’i lleoli ger y môr ac yn agos i ganol pentref Pentywyn.

 

Parcio a Thrafnidiaeth

Mae meysydd parcio talu ac arddangos wedi’u lleoli’n agos at yr amgueddfa gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Mae lle parcio ar y traeth hefyd (yn dibynnu ar y llanw).

Mae’n bosibl llogi storfeydd beiciau diogel ar y safle, ac mae llochesi beiciau hefyd ar gael yn rhad ac am ddim.

Gallwch chi gyrraedd yr amgueddfa drwy ddefnyddio llwybrau bysiau cyhoeddus, gyda gwasanaethau bws yn rhedeg i Gaerfyrddin (rhif 222) a Dinbych-y-pysgod drwy Saundersfoot (rhif 351) yn ddyddiol. Mae’r gwasanaethau yn cael eu gweithredu gan Taf Valley Coaches.

Mae'r gorsafoedd trên agosaf at yr amgueddfa yn Hendy-gwyn (oddeutu 10 milltir), Dinbych-y-pysgod (oddeutu 17 milltir), a Gaerfyrddin (oddeutu 18 milltir)

 

Cyfleusterau

Toiledau hygyrch a thoiled Changing Places yn yr Amgueddfa a'r Caban.

Loceri ar gyfer eich eiddo yn yr amgueddfa.

Siop anrhegion yr amgueddfa.

Man chwarae a meinciau picnic y tu allan i brif fynedfa'r amgueddfa.

Mynediad hygyrch i bromenâd y traeth ac i'r traeth enwog 7 milltir o hyd.

Sawl lle i fwyta sy’n agos i’r amgueddfa. Mae bwyty'r Caban reit drws nesaf https://cabanpentywyn.cymru/

 

Prisiau

Mae yna docynnau dydd a thocynnau crwydro 7 diwrnod ar gael, i roi digon o gyfle i chi gael gweld yr ardal.

Cost y tocynnau yw £7 i oedolion, £6 gyda gostyngiad (myfyrwyr a phobl ag anabledd yn unig), a £4 i blant (5-18 oed). Mae gennym hefyd docyn dydd 4+ hyblyg, sy’n cynnig gostyngiad o 10% i deulu neu grŵp bach o bedwar neu fwy o bobl.

Mae'r tocyn crwydro 7 diwrnod yn rhoi ymweliadau diderfyn â'r Amgueddfa Cyflymder a Chartref Dylan Thomas yn Nhalacharn am 7 diwrnod. Cost y tocynnau wythnosol yw £10 i oedolion, £9 gyda gostyngiad, a £5.50 i blant (5-18 oed).

 

Telerau ac Amodau

Mynediad am ddim i blant dan 5 oed.

Mae gostyngiadau tocyn yn berthnasol i fyfyrwyr (sydd â cherdyn myfyriwr dilys) a phobl ag anabledd.

Mynediad am ddim i ofalwyr pan fyddwch yn dod gyda’r person rydych yn gofalu amdano.

A view of the new Museum of Land Speed in Pendine

Croeso i’r dyfodol

Mae wedi bod yn ymdrech hir dros dair blynedd, gyda heriau mawr, ond mae’r Amgueddfa Cyflymder wedi’i chwblhau nawr.

Sir Malcolm Campbell's Sunbeam 'Blue Bird' on Pendine Sands in 2015

Pentywyn a Chyflymder

Am gyfnod byr, i nifer fach o bobl, Traeth Pentywyn oedd canolbwynt y byd. Canolbwynt Record y Byd i fod yn fanwl gywir am Gyflymder ar y Tir.

Find out more

Ble’r ydym

Keys

  • Abergwili SA31 2JG

  • Felinfoel Road Llanelli SA15 2LJ

  • Pendine SA33 4NY

  • Kidwelly SA17 4LW

  • Laugharne, SA33 4SD