Skip to main content
Ein datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan CofGâr https://cofgar.cymru

Datblygwyd y wefan hon ac fe'i rheolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r testun hyd at 300% heb iddo ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel dogfen PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Rydym yn defnyddio Google Maps i ddangos cyfarwyddiadau i'n amgueddfeydd. Os na allwch weld y mapiau ar ein gwefan, ffoniwch 01267 234567 neu anfonwch e-bost atom, gwybodaeth@cofgar.cymru, am gyfarwyddiadau. Rhagor o wybodaeth am hygyrchedd Google Maps.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni'r gofynion o ran hygyrchedd, anfonwch e-bost atom: gwybodaeth@cofgar.cymru

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

As part of Carmarthenshire County Council, CofGâr is committed to making its website accessible, in accordance with the Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.

This website is compliant with the Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 AA standard.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn monitro ein gwefan gan ddefnyddio https://accessibe.com/ ac yn defnyddio hwn i nodi a datrys unrhyw broblemau hygyrchedd. Rydym yn ymateb i'r holl adborth a byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau hygyrchedd a godir. Os yw'r broblem yn ymwneud â system trydydd parti, byddwn yn cysylltu â'r cyflenwr ac yn gofyn iddo ddatrys y broblem hygyrchedd.

Ewch i’r dudalen Hafan