Croeso i CofGâr
Rydym yn deulu o bum amgueddfa yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cynrychioli gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Gâr ac rydym yn gyffrous i'ch croesawu i'n lleoliadau gwych.
Eisiau gwybod am amgueddfeydd CofGâr? Cliciwch ar ein lleoliadau ar waelod y dudalen am oriau agor, gwybodaeth i ymwelwyr a mwy.
Oriau Agor
Bob dydd, 10yb-5yp
01267 224611
Mercher-Sul, 10yb-5yp
01554 742220
Bob dydd, 10yb-5yp
01267 228696
Iau-Llun, 10yb-5yp
01994 427420

Ein Safleoedd

Amgueddfa Sir Gâr

Cartref Dylan Thomas
Archwiliwch gartref olaf eiconig Dylan Thomas yn y Cartref—sy'n edrych dros aber Tâf yn Nhalacharn—sydd bellach yn amgueddfa CofGâr gydag arddangosfeydd dilys, ystafell de, siop anrhegion, a'i sied ysgrifennu enwog.

Amgueddfa Parc Howard
Darganfyddwch straeon am orffennol diwydiannol Llanelli yng nghalon y dref, yn ogystal â’i chasgliad enfawr o grochenwaith enwog o’r ardal.

Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Yn enwog am ei chastell lleol, mae Cydweli hefyd yn gartref i weithfeydd tunplat hynaf Ewrop. Er bod yr Amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gallwch chi gael newyddion am ddatblygiad y lle hanesyddol hwn yma.