Skip to main content

Casgliadau

Mae gan ein casgliadau rywbeth at ddant pawb, o’r pethau pob dydd i’r pethau anarferol.

 

Mae’r gwrthrychau’n rhychwantu mwy na 50,000 o flynyddoedd o hanes Sir Gâr, o’r Oes Iâ ddiwethaf hyd heddiw.

 

Mae gennym hefyd ffosilau o gyfnod pellach fyth yn ôl mewn amser a sbesimenau o hanes naturiol lleol.

 

Mae gofalu am gymaint o wrthrychau yn golygu na allwn ni ddangos pob un ohonyn nhw. Felly weithiau byddwn ni'n newid arddangosfeydd ac yn rhoi eraill gadw. Os oes gennych hoff wrthrych yr hoffech ei weld, cysylltwch â ni cyn dod i'n gweld i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei arddangos.

 

 

Ymysg yr uchafbwyntiau mae:

  • canfyddiadau Rhufeinig o dref Moridunum a’r cloddfeydd aur yn Dolaucothi
  • cerrig coffa Cristnogol Cymreig cynnar
  • portread o’r arwres Gymreig Madam Bevan
  • cwiltiau a thecstilau lliwgar lleol
  • dodrefn derw Sir Gâr
  • casgliad hyfryd o eang o Grochenwaith Llanelly
  • a thun cwrw arloesol Llanelli a’i Olwyn Sbâr Stepney.

 

Ond, cafodd nifer o’n gwrthrychau eu creu neu eu casglu yn y 19eg ganrif ac ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed. Dyma oes yr Ymerodraeth Brydeinig y chwaraeodd nifer o bobl a diwydiannau lleol ran weithredol ynddi.

 

Cafodd llawer o’n cymunedau eu creu drwy elw caethwasiaeth a thrwy gamfanteisio ar wledydd eraill.

 

Ond mae’r cam-drin economaidd a gwleidyddol hwn yn parhau. Roeddent yn galluogi hiliaeth a dyma pam mae’r byd mewn argyfwng hinsawdd.

 

Rydym wedi cychwyn taith i ddadorchuddio’r straeon cudd hyn ac rydym yn gobeithio dysgu ganddyn nhw.

 

Gallwch ddysgu am rai o’n casgliadau drwy ddilyn y dolenni isod. Byddwn yn ychwanegu rhagor. Bydd dolen at gronfa ddata ein casgliadau ar gael maes o law hefyd.

Memorial Stone carved with a cross and an inscription

Beth yw fy enw?

Yn y Gymru fodern rydym yn gyfforddus â dwy iaith. Pe baech chi wedi ymweld 1500 o flynyddoedd yn ôl, efallai y byddech wedi clywed mwy nag un bryd hynny hefyd. Math cynnar o Gymraeg a math cynnar o Wyddeleg. Yn ychwanegol at hynny roedd Lladin, iaith a adawyd gan y Rhufeiniaid pan aethent o’r wlad.

Compass

Pwyntio’r ffordd

Janet Taylor, arloeswr benywaidd mewn byd gwrywaidd?

Find out more
Bank note

Arian Anghyffredin

Yn 2022 rydym mewn llanastr economaidd ofnadwy a dim ond 14 mlynedd sydd wedi pasio ers yr un diwethaf. Yn ystod yr argyfwng hwnnw, talodd Llywodraeth y DU lawer o arian i atal banciau rhag methdalu. Yn 1832 yng Nghaerfyrddin, cafwyd canlyniad gwahanol.

a butter print

Gwneud argraff

Beth yw pwrpas yr holl laswellt yma? A beth yw cysylltiad Mr Morgan â’r peth beth bynnag?

Find out more