Skip to main content

Dewch i ddarganfod cartref a Sied Ysgrifennu eiconig Dylan Thomas, lle cafodd y bardd adfywiad creadigol.

Cartref Dylan Thomas

Cyrhaeddodd Dylan Thomas Lacharn am y tro cyntaf yn 1934 yn 19 oed. Daeth gyda chyfaill ar y fferi o ochr arall aber afon Taf a byddai wedi glanio ychydig y tu ôl i’r Boathouse. Cafodd ei swyno ar unwaith gan Lacharn.

 

O’r Boathouse y cychwynnodd Dylan ar y daith dyngedfennol i Efrog Newydd, lle bu farw yn 1953 yn 39 oed; marwolaeth gynnar a drodd ddyn dawnus yn un o gewri llenyddiaeth.

 

Mae gan deulu Dylan gysylltiad cryf iawn â’r Boathouse o hyd. Daeth Aeronwy, unig ferch Dylan, yn llysgennad dros ei waith ac yn awdur dawnus ei hun. Ers ei marwolaeth cyn pryd yn 2009 mae’r rôl wedi’i throsglwyddo i’w merch, Hannah Ellis, sy’n ymweld â’r Boathouse yn rheolaidd gyda’i theulu. Mae teulu Dylan Thomas yn teimlo’n gartrefol iawn yma o hyd.

 

Prisiau Mynediad

Oedolion – £6
Consesiwn – £5.50
Plant 5-18 – £3
Plant o dan 5 oed – Am ddim

Ystafell de yn unig – Am ddim

 

 

Oriau Agor 2024

1 Ionawr i'r Pasg, ar agor dydd Iau i dydd Llun, 10:30yb - 3yp

Pasg ymlaen: agor oriau hirach.

 

 

Cyfeiriad

Cartref Dylan Thomas,
Rhodfa Dylan, Lacharn,
Sir Gaerfyrddin, SA33 4SD

 

Defnyddiwch y cod post: SA33 4SY ar gyfer Satnav. Bydd hyn yn mynd â chi i Faes Parcio Green Banks. Gwiriwch amserlen y llanw ar gyfer llanw uchel oherwydd gall y maes parcio gael ei orlifo. Mae deg munud ar droed i'r Boathouse.

 

Nifer cyfyngedig o seddi sydd yn yr Ystafell De. Mae yna hefyd ardal patio / ystafell de y tu allan lle byddwn yn gweini detholiad o gacennau a diodydd cartref.

 

Mae mynediad i’r tŷ a’r ystafell de i lawr 40 gris i’r tŷ a 10 gris i’r ardal patio (a allai fod yn heriol i’r rhai â phroblemau symudedd) lle bydd lluniaeth ar gael. Nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na thoiled i'r anabl.

Ble'r ydym

Keys

  • Abergwili SA31 2JG

  • Felinfoel Road Llanelli SA15 2LJ

  • Pendine SA33 4NY

  • Kidwelly SA17 4LW

  • Laugharne, SA33 4SD