Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Dewch i weld arddangosfeydd hynod ddiddorol, clywed stori Sir Gaerfyrddin, a phrofi awyrgylch Hen Balas yr Esgob.
Mae amgueddfa’r sir yn adrodd hanesion pobl, pŵer a phrotest ar draws Sir Gaerfyrddin, o’r celf a chrefft a wnaethant i’r offer a’r technegau a ddefnyddiwyd ganddynt.
Wedi’i leoli yn hen Balas Esgobion Tyddewi, sy’n 700 mlwydd oed, fe gewch chi atgofion o’r hanes hwnnw drwy gydol eich ymweliad. O Gapel heddychlon i Hen Gegin dywyll, fe welwch ddigonedd i'w fwynhau yn y Palas mewn Parc.
Oriau Agor 2024
Ar agor dydd Mercher i dydd Sul, 11yb - 4yp.
Agor oriau hirach o'r Pasg ymlaen.
Mynediad i'r amgueddfa am ddim.
Blynyddoedd o hanes. Gyda wyneb sy’n newid.
Agorodd Amgueddfa Sir Gâr eto ym mis Ionawr 2022. Cafwyd newidiadau pwysig yno dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Os ydych wedi ymweld yn rheolaidd, rydych yn siŵr o ryfeddu pan welwch y gwelliannau. Nid yw’r to yn gollwng bellach. Mae’r simneiau wedi eu trwsio. Mae’r ffenestri wedi eu paentio. Mae angen gwneud mwy o waith ar gwpwl o’r orielau cyn i ni eu hagor i chi eu mwynhau. Mae hyn yn cynnwys ein Oriel Ddarganfod newydd sy’n croesawu teuluoedd.
Ond dim ond y dechrau yw hyn. Fe welwch chi fwy o newidiadau cyffrous yn y dyfodol. Am y tro mae rhai o'n gwrthrychau yn cael seibiant, fel ein harchaeoleg Gynhanesyddol a Rhufeinig a'n cerrig coffa Cristnogol Cymreig. Byddan nhw'n ôl pan allwn ni eu cynnwys mewn arddangosfeydd newydd gwych.
Mae llawer o bobl yn gwybod bod yr amgueddfa’n balas ar un cyfnod i esgobion Tyddewi. Ac os byddwch yn ymweld, byddwch yn gweld llawer o bethau oedd yn gyfarwydd iddyn nhw, yn cynnwys y gegin fawr a’u capel preifat. Er bod hon yn amgueddfa, mae pobl yn hoff o’r ffaith bod ystafelloedd y palas a’r mannau cysylltiedig yn weddol fach ac wedi eu bwriadu i fod yn gartref.
Mae Parc yr Esgob yn edrych yn wych, diolch i waith adfer Ymddiriedolaeth Porth Tywi. Mae tro o amgylch y tir yn brofiad braf iawn, ac mae eu caffi newydd yn agored erbyn hyn i chi allu prynu coffi blasus a chacennau hyfryd.
Ble ydym ni?
Mae map lleoliad Google ar waelod y dudalen hon. Ond gallwch ddod o hyd i ni gerllaw’r A40, ym mhentref Abergwili, ddwy filltir i’r dwyrain o ganol tref Caerfyrddin. Mae gan y dref orsaf drenau, gorsaf bysiau a nifer o gwmnïau tacsi. Gallwch gerdded i’r amgueddfa neu ddod ar feic, ar fws cyhoeddus neu mewn car. Mae bysiau’n aros y tu allan i Barc yr Esgob ac yn agos at y maes parcio. Edrychwch yma i gael rhagor o fanylion.
Maes parcio
Dim ond lle i tua 20 o gerbydau sydd yn y maes parcio ac nid oes gennym leoedd parcio dynodedig. Y newydd da yw ein bod wedi derbyn caniatâd cynllunio i wneud gwelliannau.
Cyrraedd
O faes parcio’r amgueddfa ewch yn syth i ganolfan ymwelwyr Parc yr Esgob a’i gaffi newydd sbon. Mae mynedfa’r amgueddfa ar yr ochr arall.
Os byddai’n well gennych aros tan ddiwedd eich ymweliad cyn cael coffi a chacen, gallwch gyrraedd mynedfa’r amgueddfa mewn dim amser ar hyd y llwybrau cerdded. Ar hyn o bryd, rydym yn cynghori ymwelwyr i osgoi defnyddio’r dreif i gerbydau am ei fod yn anwastad.
Yn lle hynny, rydym yn eich annog i ddilyn y llwybr newydd sy’n rhedeg yn glocwedd o’r maes parcio o amgylch tu allan yr adeilad. Mae ychydig bach yn bellach at y fynedfa, ond mae golygfeydd gwych ar draws dyffryn Tywi ac mae meinciau ar hyd y ffordd.
Mae gan ein siop newydd amrywiaeth wych o gynhyrchion lleol a Chymreig hyfryd i’w rhoi’n anrhegion.
Dim ond ymweliadau hunandywys sydd ar gael ar hyn o bryd os ydych am ddod i ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr. Ein nod yw cynnig gweithdai a phrofiadau dysgu newydd ar y safle ac ar-lein yn y dyfodol. Yn rhan o hynny, bydd sesiynau wedi’u hwyluso ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru.
Mae’r amgueddfa hon yn cynrychioli penodau yn hanes Sir Gâr. Mae ganddi ei hanes ei hun hefyd, am ei bod yn balas i Esgobion Tyddewi am gannoedd o flynyddoedd. Mae ein horielau parhaol yn dod â gorffennol Sir Gâr yn fyw. Ar hyn o bryd gallwch ddefnyddio ein horielau i archwilio bywyd yn Oes Fictoria, Bwyd a Ffermio. Ac mae ein harddangosfeydd arbennig yn rhoi cyfle i chi archwilio pynciau’n fanylach.
Gofynnwn i ysgolion gofrestru ymweliadau o flaen llaw felly Cysylltwch â ni i roi gwybod beth yw eich dewis ddyddiad ymweld a gallwn drafod manylion eich ymweliad. Ffoniwch 01267 228696 neu anfonwch e-bost i info@cofgâr.wales
Rydym wrth ein boddau’n croesawu grwpiau a phartïon ar fws i fwynhau ymweliadau hunandywys. Ond, os ydych yn bwriadu dod ar ymweliad o’r fath, gofynnwn eich bod yn cofrestru eich ymweliad bythefnos o flaen llaw.
Mae Amgueddfa Sir Gâr yn fawr, ond ar y tu mewn mae’r mannau clud yr oedd esgobion Tyddewi, eu teuluoedd a’u staff yn byw ynddynt. Ni chafodd ei adeiladu ar gyfer heidiau o ymwelwyr modern. Ac rydym eisiau i chi fwynhau eich ymweliad.
Cysylltwch â ni i ddweud ar ba ddyddiad yr hoffech ymweld a gallwn edrych yn ein dyddiadur ac anfon ffurflen gofrestru atoch ar yr e-bost er mwyn i chi roi mwy o wybodaeth i ni am eich grŵp. Ffoniwch 01267 228696 neu anfonwch e-bost i info@cofgâr.wales
Siop Rhoddion
Siop fach sy’n orlawn â rhoddion. Ein hysbrydoliaeth yw Sir Gaerfyrddin a Chymru. Y straeon, yr hanes, y traddodiadau, y crefftau.
A chi, ein hymwelwyr. Gadewch i ni wybod eich barn am ein detholiadau a ddewiswyd yn ofalus. A gobeithio y byddwch chi’n dod o hyd i gofrodd arbennig o’ch taith yn eu mysg.
Chwarter Canrif o Drysorau
Dewch i weld trysorau archeolegol anhygoel yn yr arddangosfa newydd sbon hon
Cartref Dylan Thomas
Dewch i ddarganfod cartref a Sied Ysgrifennu eiconig Dylan Thomas, lle cafodd y bardd adfywiad creadigol.
Amgueddfa Parc Howard
Darganfyddwch straeon am orffennol diwydiannol Llanelli yng nghalon y dref, yn ogystal â’i chasgliad enfawr o grochenwaith enwog o’r ardal.
Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno
Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Yn enwog am ei chastell lleol, mae Cydweli hefyd yn gartref i weithfeydd tunplat hynaf Ewrop. Er bod yr Amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gallwch chi gael newyddion am ddatblygiad y lle hanesyddol hwn yma.
Ble’r ydym
Keys
-
Abergwili SA31 2JG
-
Felinfoel Road Llanelli SA15 2LJ
-
Pendine SA33 4NY
-
Kidwelly SA17 4LW
-
Laugharne, SA33 4SD