Skip to main content

CofGâr

P’un a yw Sir Gaerfyrddin yn gartref i chi, neu os ydych yn ymweld o bell, mae amgueddfeydd CofGâr yma i rannu penodau cyfareddol o hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin gyda chi.

 

O greu recordiau byd ar ei thraethau i gynhyrchu bron i hanner tunplat y byd yn Sir Gaerfyrddin a Chymru yn ystod y 19eg ganrif, mae gan y sir hanes cyfoethog ac amrywiol y mae ein teulu o amgueddfeydd yn awyddus i’w arddangos.

Mwy am CofGâr

Ni yw CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Yn CofGâr, rydym yn credu bod ein gorffennol yn llunio pwy ydyn ni heddiw. Ein cenhadaeth yw cadw stori Sir Gâr, a’r gorffennol, yn fyw. Mae ein henw Cymraeg yn gyfuniad o’r gair ‘cof’, i gyfeirio at gofio, a “Gâr” o Sir Gâr.

 

Fodd bynnag, nid rhannu straeon ddoe yn unig sy’n bwysig. Yn CofGâr, rydym eisiau ysgogi syniadau ac annog pobl i lunio’r dyfodol mewn ffordd bositif.

 

Mae amgueddfeydd CofGâr yn ymdrechu’n barhaus i gyrraedd y nod hwn wrth i ni fynd ati i guradu gwerth 50,000 o flynyddoedd o dreftadaeth ein cymuned, a dim ond y dechrau yw hynny! Cadwch olwg am fwy o ddiweddariadau ac os ydych chi’n hoffi'r hyn a welwch, beth am ymuno â ni fel gwirfoddolwr neu ffrind? Byddem ni wrth ein boddau yn clywed gennych.

 

'Ymuno a chefnogi'

Ewch i’r dudalen Hafan