Skip to main content

Gwirfoddolwyr

Mae gwirfoddolwyr yn dod â mewnwelediadau a dealltwriaeth newydd. Ac os hoffech chi ymuno â ni, bydd gwirfoddolwyr yn rhan enfawr o ddyfodol CofGâr. Rydym yn hyderus y gallwn gynnig profiad gwerth chweil i chi. A byddwn ni eisiau dysgu gennych chi hefyd. Gyda'n gilydd gallwn archwilio ac ychwanegu at stori Sir Gaerfyrddin.

 

Ydych chi'n angerddol am hanes, celf a diwylliant, ac yn awyddus i rannu eich brwdfrydedd gyda chynulleidfaoedd amrywiol? Ydych chi'n mwynhau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'u hysbrydoli?

 

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr Profiad Ymwelwyr ac Ymgysylltu â Theuluoedd o fewn y gwasanaeth amgueddfeydd.

Byddwch yn Gyfaill

Cymunedau greodd ein hamgueddfeydd. Cychwynnodd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin yn Amgueddfa Sir Gâr yn 1908. Yn dilyn lobïo gan y cyhoedd, rhoddwyd Parc Howard i Lanelli yn 1912. Gweledigaeth ac ymrwymiad gwirfoddolwyr niferus a achubodd waith tunplat Cydweli yn yr 1970au. A’r farn gref yn lleol a wthiodd am amgueddfa i ddathlu hanes unigryw Pentywyn yn 1996.

 

Mae ein grwpiau Cyfeillion yn parhau’r traddodiad hir hwn. Lansiodd Cyfeillion Amgueddfa Sir Gâr yn 1989 a Chyfeillion Amgueddfa Llanelli yn 1995. Mae’r ddau grŵp yn trefnu rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol, sgyrsiau ac ymweliadau. Mae eu gwaith i godi arian wedi ein helpu i brynu llawer o eitemau arwyddocaol i’r casgliad. Mae’r Cyfeillion hefyd yn derbyn gwahoddiadau i agoriadau amgueddfeydd a dangosiadau preifat.

Ewch i’r dudalen Hafan