Skip to main content

Crochenwaith Llanelly

Mae ein casgliad o Grochenwaith Llanelly yn adrodd stori unigryw am Lanelli a’i phobl. Mae’n cysylltu ehangiad diwydiannol y dref, y bobl a ddaeth i fyw a gweithio yno a’r Arglwyddes Stepney a roddodd Parc Howard yn rhodd i’r dref fel amgueddfa ac i gadw ei chasgliad personol o grochenwaith Llanelly.

 

Cychwynnwyd y Crochendy gan y dyn busnes lleol William Chambers yn 1839 ac roedd mewn busnes hyd 1921. Erbyn yr 1850au roedd yn cyflogi 100 o bobl oedd yn gwneud 24,000 o eitemau yr wythnos. Byddai pobl yn prynu platiau a bowlenni pob dydd ac eitemau addurnol yn lleol a byddent yn cael eu gwerthu yn Ewrop, Affrica, America ac Awstralia.