Skip to main content

Llogi

Dewiswch CofGâr ar gyfer eich priodas, digwyddiad, neu achlysur arbennig.


Yn gofalu am bum lleoliad hardd yng nghanol Cymru, mae CofGâr yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau hanesyddol a chyfoes, o orielau cain y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ystafelloedd cynadledda o’r radd flaenaf.


P’un a ydych chi’n chwilio am awyrgylch ysbrydoledig Cartref Dylan Thomas, neu’r Amgueddfa Cyflymder syfrdanol sy’n edrych dros un o draethau harddaf y wlad, mae gan CofGâr bopeth i wneud eich diwrnod yn un arbennig.


Ac mae bonws ychwanegol. Drwy archebu un o'n lleoliadau, byddwch yn cefnogi ein gwaith o ofalu am y lleoedd arbennig hyn i bawb eu mwynhau.


Sgwrsiwch gyda'n tîm i ddarganfod sut gallwn ni helpu.