Skip to main content

Croeso i’r Dyfodol

Mae'r Amgueddfa Cyflymder wedi bod yn rhan o arfordir Pentywyn ers 1996. Fodd bynnag, roedd strwythur yr adeilad wedi dod i fod mewn perygl erbyn 2017 oherwydd ei bod wedi symud a chael ei difrodi o ganlyniad i erydiad.

Agorodd yr Amgueddfa Cyflymder ym mis Mawrth 1996 a chaeodd am y tro olaf yn 2018.

Roedd hwn yn gyfle i ddylunio adeilad newydd fel rhan o brosiect adeiladu fyddai’n gwneud gwahaniaeth i gymuned Pentywyn drwy ddarparu cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Amgueddfa a llety’r Caban wedi’u hadeiladu ochr yn ochr, gan ddefnyddio technolegau adeiladu cynaliadwy ac ymgorffori nodweddion ynni adnewyddadwy. Mae’r tirlunio i greu mynediad gwastad at y gyrchfan a trwy’r adeiladau newydd, yr ystafelloedd wedi'u haddasu, a’r toiled Changing Places yn gwella hygyrchedd i'r gyrchfan.

Ers 1996 mae’r amgueddfa wedi derbyn un ymwelydd arbennig yn flynyddol, Babs. Dyma’r car sydd wedi torri recordiau cyflymder tir ac a fu yn perthyn i ac yn cael ei yrru gan J. G. Parry-Thomas. Ymddiriedolaeth Babs sy’n berchen ar y car heddiw, ar ôl i Owen Wyn Owen ei achub a'i adfer yn y 1960au. Mae teulu Owen yn parhau i fod yn geidwad iddo. Mae mesurau diogelwch llym a rheolaethau amgylcheddol yr Amgueddfa Cyflymder newydd yn caniatáu i ni adrodd rhagor o straeon am hanes cyflymder tir Pentywyn drwy ddefnyddio arteffactau gwreiddiol. Mae’r rhain yn cynnwys deunydd sydd ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru, National Motor Museum Beaulieu, a llawer o unigolion sydd â chysylltiadau teuluol â hanes rasio a chyflymder tir Pentywyn.

Roedd ‘Babs’ wedi’i gladdu yn Nhraeth Pentywyn am flynyddoedd, cyn iddo gael ei adfer i ddod yn gar y mae ei injan yn rhedeg bellach. Heddiw mae'n cael ei yrru gan Geraint, mab Owen Wyn Owen, ac mae hefyd yn ymddangos ym mhrofiad ogof fideo Amgueddfa Cyflymder ar y Tir.

Cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) a’i chwrs arloesol ‘Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth’ yw ffocws yr arddangosfa arbennig gyntaf yn yr amgueddfa newydd. Mae’n arddangos gwaith y myfyrwyr y mae eu dyluniadau’n mynd i’r afael â materion newidiol sy’n dylanwadu ar ein syniadau o’r hyn oedd, beth yw a beth allai dylunio modurol a thrafnidiaeth ei olygu; cynaliadwyedd, effaith gymdeithasol, rhyngwladoliaeth, her i ganfyddiadau am hygyrchedd ac amrywiaeth ac, wrth gwrs, ‘hwyl’!

Mae myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yng Nghymru(PCDDS)  yn herio confensiynau mewn moduro a symudedd. Dyluniadau gan Alistair Barkley.

 

Mae datblygiad Pentywyn wedi’i sybsideiddio gan y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth sy'n cael ei chyflawni gan Lywodraeth Cymru gyda Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd hwn yn brosiect pwysig iawn i Adran Adfywio Cyngor Sir Caerfyrddin, gan sicrhau miliynau o bunnoedd gan nifer o ffynonellau er mwyn creu cyrchfan o ansawdd sy’n anelu at annog buddsoddiad busnes a chyflogaeth yn yr ardal leol.