Skip to main content

Oriau Agor 2025

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa, ond rydym yn argymell rhodd o £3 i’n helpu i barhau i ofalu am y casgliadau a chynnal mwy o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous.

 

 

Ionawr

Dydd Iau i Ddydd Sul, 10-3:30

 

 


Chwefror i Fawrth


Dydd Iau i Ddydd Sul, 10:30-4:30

 

 

Ebrill ymlaen


I'w gadarnhau

 

 

Gwyliau Ysgol

Mawrth-Hydref, bob dydd, 10-5


Tachwedd-Chwefror, bob dydd, 10:30-4:30

 


Unrhyw gwestiynau? Ffoniwch ni (yn ystod oriau agor): 01554 742220 neu ffoniwch 01267 228696 ar bob adeg arall.

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Sut i ddod o hyd i ni

Amgueddfa Parc Howard, Heol Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ. Mae'r Amgueddfa yn adeilad mawr, Eidalaidd y tu mewn i amgylchedd hardd parc cyhoeddus.

 

Teithio Cynaliadwy

Mae Parc Howard ar lwybr bysiau cyhoeddus, gydag arosfannau bysiau ar hyd Heol Felinfoel y tu allan i'r parc. Mae gwasanaethau rheolaidd o Gaerfyrddin (rhif 197) yn gollwng ger y parc. Mae yna hefyd wasanaethau rheolaidd o Abertawe (rhif X11) sy'n gollwng ar Stryd Andrew, Llanelli (10 munud ar droed i'r Amgueddfa).

 


Mae’r orsaf drenau agosaf i’r Amgueddfa oddi ar y B4304 yn Llanelli (30 munud ar droed i’r Amgueddfa).

 


Mae yna hefyd ddigonedd o lwybrau teithio llesol yn Llanelli a’r cyffiniau sy’n cysylltu â llwybrau fel Llwybr Arfordir Cymru a’r rhwydwaith beicio helaeth yn ne Cymru.

 

Parcio

Nid oes lle i barcio yn yr Amgueddfa ei hun oherwydd ei leoliad o fewn parc cyhoeddus.

 


Mae meysydd parcio talu ac arddangos o amgylch Llanelli. Yr agosaf at yr Amgueddfa yw Thomas/Edgar Street, sydd 8 munud i ffwrdd ar droed. Dewch o hyd i feysydd parcio eraill yn yr ardal ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin.

 

Cyfleusterau

  • Mynedfa hygyrch a thoiledau
  • Lifft i'r orielau llawr cyntaf
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Siop anrhegion amgueddfa
  • Te, coffi a lluniaeth a byrbrydau eraill ar gael
  • Man chwarae a meinciau picnic o amgylch y parc

Croeso i'r Imaginarium

Ysbrydoli ein dyfeiswyr nesaf yw ein cenhadaeth yn Amgueddfa Parc Howard.

 


Mae ein harddangosfeydd newydd sbon yn arddangos rhai o'r syniadau a'r dyfeisiadau gorau i ddod allan o Lanelli. Mae llawer yn gwybod am olwyn sbâr gyntaf y byd - y Stepney - ond oeddech chi'n gwybod bod sylfaenydd Specsavers wedi ei eni yn y dref? Mae bob amser wedi bod yn lle o newid ac arloesi.

 


Nid dyna'r cyfan. Rydym yn eich gwahodd i archwilio, trafod a chwarae gyda'ch gilydd yn ein horiel Imaginarium, gan mai dyma'r ffordd orau i ddysgu a gwneud synnwyr o'r byd. Roedd chwarae, dychymyg a chreadigrwydd yn dylanwadu ar deganau, diwylliant poblogaidd a hyd yn oed darganfyddiadau gwyddonol. Taniwch eich dychymyg trwy ddatrys y pos pyramid. Neu syllu mewn rhyfeddod ar ddelweddau hardd y caleidosgop. Efallai hyd yn oed darganfod dirgelwch Pepper's Ghost!

 


Amgueddfa wedi'i Thrawsnewid

Mae gwaith adnewyddu helaeth wedi trawsnewid Amgueddfa Parc Howard yn lle i ddarganfod a rhyfeddu. Mae'n amgueddfa deulu-gyfeillgar gyda chymuned a chreadigrwydd yn ganolog iddi.

 


Ailagorodd y llawr gwaelod i ymwelwyr ym mis Rhagfyr 2023 ar ôl dwy flynedd o waith adnewyddu ac ailagorodd y llawr cyntaf yng ngwanwyn 2024. Crëwyd yr arddangosfeydd a ddadorchuddiwyd trwy brosiectau cymunedol, gan amlygu straeon pobl Llanelli.

 


Cafodd y plasty Eidalaidd trawiadol ei hun ei weddnewid hefyd. Cafodd y tŵr, y to a’r porth eiconig eu hadfer ac uwchraddiwyd systemau drwyddi draw. Mae yna hefyd dderbynfa croesawgar a hygyrch i ymwelwyr gyda siop anrhegion yn llawn anrhegion chwareus a chofroddion lleol. Dyma hefyd y lle i fynd i ddod o hyd i ddiodydd poeth, byrbrydau a hufen iâ. 

 


Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli wedi ariannu’r prosiect uchelgeisiol ac yn parhau i gydweithio i ddarparu profiad llawn hwyl a chynhwysol i ymwelwyr i bawb.

Oil painting portrait of James Buckley

James Buckley

Roedd James Buckley yn achosi gofid i’w deulu, yn gofyn am arian byth a beunydd. Dilynwch y ddolen isod i weld portread arall o’r mentrwr dylanwadol hwn

Hospital

A WYDDOCH CHI?

Ar un cyfnod roedd Parc Howard yn lle diogel i ffoaduriaid o Wlad Belg ac yn ysbyty i filwyr Prydeinig oedd wedi anafu.

Find out more

Ble’r ydym

Keys

  • Abergwili SA31 2JG

  • Felinfoel Road Llanelli SA15 3LJ

  • Pendine SA33 4NY

  • Kidwelly SA17 4LW

  • Laugharne, SA33 4SD