Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Caeodd Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli yn 2017 ac mae gofal y safle wedi dychwelyd dros amser i berchennog y tir, Cyngor Sir Gâr.
.
Yn ystod 2022-2023, cwblhawyd arolygon eang i roi cipolwg o gyflwr eiddo rhestredig yr amgueddfa a’r strwythurau rhestredig. Roedd gwaith arall a wnaed ar yr un pryd yn cynnwys adolygiad o'r casgliad ac asesiad ecolegol rhagarweiniol. O’r rhain, mae gwerthusiad opsiynau drafft wedi’i baratoi sy’n ystyried goblygiadau opsiynau o’r effaith ar gymdeithas a chadwraeth hanesyddol, i’r economi a’r amgylchedd.
Mae amserlen yn cael ei chytuno ar gyfer pryd y bydd yr adroddiad yn mynd i wahanol gyfarfodydd i'w ystyried. Disgwylir arweiniad gan y Cabinet erbyn diwedd 2024, a fydd yn llywio beth fydd y camau nesaf.
Mae’r amgueddfa’n diogelu un o’r gweithiau tunplat cyntaf ym Mhrydain, a’r gwaith tunplat hynaf yn unrhyw le yn Ewrop erbyn hyn. Am ei fod yn dal i oroesi, mae gan yr hen waith le arbennig yn stori Chwyldro Diwydiannol Prydain. Cafodd bron i hanner tunplat y byd ei weithgynhyrchu yng Nghymru yn y 19eg ganrif, a llawer ohono yn Sir Gâr.
Tunplat oedd plastig ei ddydd a byddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth fawr o gynhyrchion cyffredin. Roedd y rhain yn cynnwys teganau plant, baddonau, cynwysyddion bwyd ac offer cegin. Potiau a sosbenni a wnaed yn Llanelli a gymerodd y Capten Robert Falcon Scott ar ei gyrch olaf ac angheuol i’r Antarctig yn 1910 -1912.
Cychwynnodd y gwaith o weithgynhyrchu tunplat yng Nghydweli yn 1737 ar safle hen efail haearn, a pharhaodd tan 1941. Dechreuodd fel gwaith bach ac ehangodd drwy gydol y 19eg ganrif i ddod yn gyflogwr mwyaf ardal Cydweli. Yn 1881, roedd 252 o ddynion a bechgyn a 35 o fenywod yn gweithio yno, ac roedd llawer ohonynt wedi eu geni’n lleol. Ond am fod y diwydiant yn ehangu, denwyd pobl newydd i’r ardal hefyd gan beri i’r dref dyfu.
Mae’r amgueddfa’n esbonio’r broses felin bacio, lle byddai trenau’n dod â bariau o haearn gyr i mewn ac y byddai peiriannau stêm trwm, a phrosesau gwres a chemegol, yn troi’r bariau’n ddalennau tun. Byddai blychau trwm o ddalennau’n cael eu cludo i weithiau stampio lle byddent yn cael eu gwasgu i greu cynhyrchion, a byddai llawer ohonynt yn cael haen enamel arnynt. Cawsai nwyddau tunplat Prydeinig eu hallforio dros y byd i gyd.
Y newyddion diweddaraf

Amgueddfa Sir Gâr

Cartref Dylan Thomas
Archwiliwch gartref olaf eiconig Dylan Thomas yn y Cartref—sy'n edrych dros aber Tâf yn Nhalacharn—sydd bellach yn amgueddfa CofGâr gydag arddangosfeydd dilys, ystafell de, siop anrhegion, a'i sied ysgrifennu enwog.

Amgueddfa Parc Howard
Darganfyddwch straeon am orffennol diwydiannol Llanelli yng nghalon y dref, yn ogystal â’i chasgliad enfawr o grochenwaith enwog o’r ardal.

Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno
Ble’r ydym
Keys
-
Abergwili SA31 2JG
-
Felinfoel Road Llanelli SA15 2LJ
-
Pendine SA33 4NY
-
Kidwelly SA17 4LW
-
Laugharne, SA33 4SD