Casgliad CofGâr
Mae casgliadau CofGâr yn dal mwy na 50,000 o flynyddoedd o hanes Sir Gâr, o’r Oes Iâ ddiwethaf hyd heddiw.
O ddannedd mamoth i feiciau modur, a llwyau caru i Grochendy Llanelli, mae'r casgliad yn cynrychioli Sir Gâr gyfan a thu hwnt.
Ond mae gofalu am gymaint o wrthrychau yn golygu na allwn ni eu dangos i gyd. Felly weithiau byddwn yn newid arddangosfeydd ac yn rhoi seibiant i eraill.
Os oes gennych hoff wrthrych yr hoffech ei weld, cysylltwch â ni cyn i chi ymweld i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei arddangos.
Ein Prosiectau
Beth yw fy enw?
Yn y Gymru fodern rydym yn gyfforddus â dwy iaith. Pe baech chi wedi ymweld 1500 o flynyddoedd yn ôl, efallai y byddech wedi clywed mwy nag un bryd hynny hefyd. Math cynnar o Gymraeg a math cynnar o Wyddeleg. Yn ychwanegol at hynny roedd Lladin, iaith a adawyd gan y Rhufeiniaid pan aethent o’r wlad.
Pwyntio’r ffordd
Janet Taylor, arloeswr benywaidd mewn byd gwrywaidd?
Arian Anghyffredin
Yn 2022 rydym mewn llanastr economaidd ofnadwy a dim ond 14 mlynedd sydd wedi pasio ers yr un diwethaf. Yn ystod yr argyfwng hwnnw, talodd Llywodraeth y DU lawer o arian i atal banciau rhag methdalu. Yn 1832 yng Nghaerfyrddin, cafwyd canlyniad gwahanol.
Gwneud argraff
Beth yw pwrpas yr holl laswellt yma? A beth yw cysylltiad Mr Morgan â’r peth beth bynnag?
I’r Gorllewin: y Celc o’r Oes Efydd Hwyr o Landdeusant
Ar ddiwrnod gwlyb a glawog ym mis Tachwedd 2019, roedd Richard Trew yn defnyddio datgelydd metel gyda’i ffrind yng Nghymuned Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, pan ddoth o hyd i rywbeth anhygoel. Wedi’u claddu ychydig islaw wyneb y ddaear, roedd dau ddarn o flaen gwaywffon efydd mawr, yn gorwedd yn wastad un darn ar ben y llall.