Skip to main content

 

 

 

 

Print ymenyn

A yw’r menyn neu’r marjarîn yn eich oergell gartref mewn twb lliwgar. Roedd y cynhwysydd plastig hwn yn un o’r cannoedd a gludwyd i’r siop ar lori. A chafodd y cynnwys blasus ei wneud mewn ffatri filltiroedd lawer i ffwrdd.

 

Ond, cyn dyddiau’r rheilffyrdd a chludiant modern ar y ffyrdd, byddai menyn yn cael ei wneud a’i ddefnyddio’n lleol.

 

Mae Sir Gâr yn ddelfrydol i wartheg llaeth. Mae’r tywydd yn fwyn a gall yr anifeiliaid bori ar y glaswellt ir.

 

Roedd gan ffermydd bach eu gwartheg a’u llaethdy eu hunain. Byddai gwragedd, gweision a phlant yn corddi’r llaeth i’w droi’n ymenyn. Bwyd pwysig i’r teulu ar y fferm.

 

Am fod arian yn brin, byddai rhywfaint yn cael ei werthu. Cawsai ei bwyso, yna ei stampio gyda phrint yn barod i’r farchnad.

 

Pwy oedd J.Morgan? Dydyn ni ddim yn gwybod. Ond mae’r print ymenyn hwn yn dweud mai eu hymenyn nhw oedd y gorau y gellid ei brynu.

 

Byddai printiau’n cael eu cerfio allan o bren sycamorwydd am nad oedd y pren hwnnw’n gadael blas rhyfedd ar y menyn.

Roedd printiau o bob siâp a maint ar gael, ond roedd rhai siâp canŵ yn boblogaidd yn Sir Gâr.