Skip to main content

 

 

 

A 19th-century ship's compass

Cwmpawd llong

Gwnaed y cwmpawd hwn gan gwmni Janet Taylor rhwng 1845 a 1875. 

 

Roedd Taylor yn arloeswr o’r 19eg ganrif a ddefnyddiodd ei hathrylith mewn seryddiaeth, mathemateg a llywio i newid y byd.

 

Ymysg ei llwyddiannau, profodd siâp y Ddaear ac ysgrifennodd lyfrau am y ffordd yr oedd hyn wedi golygu bod modd llywio’n fwy cywir ar y môr.

 

Sefydlodd Taylor academïau i ddysgu morwyr am ei gwaith. Hi oedd un o’r menywod cyntaf yn y DU i batentu dyfais.

 

Diolch i’w datblygiadau hi, roedd teithio ar y môr yn fwy diogel a chynaliadwy, a newidiodd hynny fywydau llawer o forwyr er gwell.

 

Roedd hefyd yn golygu y gallai’r Prydeinwyr gamfanteisio ar bobloedd a gwledydd tramor yn fwy effeithiol.

Return to Collections Page