Skip to main content

 

 

 

Papur arian gwerth £8

Dyma stori dda i’n cyfnod ni. Dau gan mlynedd yn ôl, sefydlwyd banciau gan bobl busnes mewn llawer o drefi yng Nghymru i gefnogi eu busnesau.

 

Y mwyaf enwog o’r rhain oedd Banc yr Eidion Du o Lanymddyfri yn Sir Gâr. Yn y diwedd daeth hwn yn rhan o Fanc Lloyd’s.

 

Argraffodd nifer o’r banciau hyn eu harian papur eu hunain. Trwy Brydain gyfan, Banc Caerfyrddin oedd yr unig un oedd â rhai gwerth £8. Mae enghraifft ar y dudalen hon.

 

Yng nghwymp y farchnad stoc yn 1825, beiwyd Banc Lloegr pan fethodd 70 o fanciau. Diolch i bleidlais o hyder yn lleol, cadwyd Banc Caerfyrddin yn agored, ond cafodd ei daro gan drychineb yn y diwedd yn 1832.

 

Cafodd ei gyhoeddi’n fethdalwr wedi i ariannwyr mawr o Lundain wrthod helpu. Gan fod ganddo ddyledion o £300,000, roedd pobl yn dweud bod y banc wedi benthyg arian yn groes i ‘bob egwyddor o synnwyr cyffredin a diogelwch cyffredin’.