Bws
Mae Amgueddfa Sir Gâr yn agos at sawl llwybr bws cyhoeddus sy'n cysylltu â threfi a dinasoedd yn y rhanbarth.
O Gaerfyrddin
Mae gwasanaeth 279 o Gaerfyrddin i Landeilo (trwy Lanarthne - Carmel) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore wrth deithio o Gaerfyrddin a dwywaith yn y prynhawn wrth deithio o Landeilo. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg ar ddydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, a dydd Sadwrn.
Mae gwasanaeth 280 o Gaerfyrddin i Lanymddyfri (trwy Landeilo a Nantgaredig) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn, ac unwaith gyda'r nos wrth deithio o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Lanymddyfri, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn, a dwywaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).
Mae gwasanaeth 281 o Gaerfyrddin i Lanymddyfri (trwy Landeilo a Nantgaredig) yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore a dwywaith yn y prynhawn wrth deithio o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Lanymddyfri, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa ddwywaith yn y bore, unwaith yn y prynhawn, ac unwaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).
Mae gwasanaeth 282 o Gaerfyrddin i Frechfa yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith yn y bore wrth ddod o Gaerfyrddin. Wrth deithio o Frechfa, mae'r gwasanaeth yn stopio y tu allan i'r Amgueddfa unwaith gyda'r nos. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc).
O Lanelli ac Abertawe
Mae gwasanaeth 195 o Lanelli i Gaerfyrddin (trwy Bontyberem) yn gadael tua phob 1-2 awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Ffwrnais, Pen-y-fai, Pump Heol, Cynheidre, Pont-iets, Pont-henri, Pontyberem, Bancffosfelen, Crwbin, Llangyndeyrn, Bancycapel a Chwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O'r fan hon, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.
Mae gwasanaeth 197 o Lanelli i Gaerfyrddin yn gadael bob dwy awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Ffwrnais, Pwll, Trimsaran, Carwe, Pont-iets, Meinciau, Pontantwn, Cloigyn, Bancycapel a Chwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O'r fan hon, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.
Mae gwasanaeth X11 o Abertawe i Gaerfyrddin (trwy Lanelli) yn gadael bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Pwll, Porth Tywyn, Pen-bre, Cydweli, Mynyddygarreg, Llandyfaelog, Idole a Chwmffrwd cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O'r fan hon, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.
O Aberystwyth ac Aberteifi
Mae gwasanaeth T1/T1A/T1X/T1C o Aberystwyth i Gaerfyrddin (trwy Lanbedr Pont Steffan) yn gadael tua phob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg ar y Sul a Gwyliau Banc lle mae'n gadael tua phob dwy awr. Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Cwm-ann, Llanybydder, Pencarreg, Aber-Giar, Llanllwni, Y Dafarn Newydd, Gwyddgrug, Pencader, Alltwalis, Pontarsais, Rhydargaeau, Peniel a Glangwili cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O'r fan hon, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa, neu cerddwch o Glangwili i'r Amgueddfa (tua 25 munud o waith cerdded o'r arhosfan bws agosaf yn HT Installations).
Mae gwasanaeth 460 o Aberteifi i Gaerfyrddin (trwy Gastellnewydd Emlyn) yn gadael tua phob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Castellnewydd Emlyn, Pentrecagal, Waun-gilwen, Drefach, Llangeler, Saron, Rhos, Cwmduad, Cynwyl Elfed, Bronwydd Arms a Glangwili cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O fan hyn, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa, neu cerddwch o Langwili i'r Amgueddfa (tua 25 munud o waith cerdded o'r arhosfan bws agosaf yn HT Installations).
O Hendy-gwyn a San Clêr
Mae gwasanaeth 224 o Hendy-gwyn i Gaerfyrddin (trwy San Clêr) yn gadael dair gwaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Trefechan, Llwyn-y-brain, Rhos-goch, Llanddowror, Pwll-trap, San Clêr, Bancyfelin, Sarnau, Meidrim a Thre Ioan cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O fan hyn, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.
Mae gwasanaeth 322 o Hwlffordd i Gaerfyrddin yn gadael dair gwaith y dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Hendy-gwyn, Pwll-trap, San Clêr a Thre Ioan cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O fan hyn, defnyddiwch un o'r gwasanaethau bws uchod i deithio i'r Amgueddfa.
O Rydaman
Mae gwasanaeth 129 Rhydaman i Gaerfyrddin yn gadael bob 2-3 awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gwyliau Banc). Mae'r gwasanaeth hefyd yn stopio mewn trefi a phentrefi eraill yn Sir Gâr fel Tir-y-Dail, Saron, Capel Hendre, Pen-y-groes, Gorslas, Cross Hands, Y Tymbl, Cwm-mawr, Drefach, Porthyrhyd, Llanddarog, Cwmisfael, Nantycaws, Llangynnwr a Thre-gynwer cyn cyrraedd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin. O’r fan hon, defnyddiwch un o’r gwasanaethau bws uchod i deithio i’r Amgueddfa.
Trên
Mae'r orsaf drenau agosaf yng Nghaerfyrddin, ychydig oddi ar yr A484 a Phont Caerfyrddin, gyferbyn â Neuadd y Sir a'r hen Gei. Nid yw'r orsaf drenau mwy na 10 munud o waith cerdded ar draws Pont y Brenin Morgan dros Afon Tywi i'r orsaf fysiau ar Stryd Las ger canol y dref. Mae'r Amgueddfa 50 munud o waith cerdded o'r orsaf drenau.
O Lanelli ac Abertawe
Mae trenau rheolaidd o Lanelli i Gaerfyrddin drwy gydol yr wythnos gydag amseroedd teithio o ddim mwy na 32 munud. Mae trenau rheolaidd hefyd o Abertawe i Gaerfyrddin gydag amseroedd teithio o ddim mwy na 47 munud.
O Ddinbych-y-pysgod
Mae trenau'n gadael tua bob awr o Ddinbych-y-pysgod i Gaerfyrddin drwy gydol yr wythnos gydag amseroedd teithio o ddim mwy na 45 munud.
Teithio Llesol
Mae ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr yn gyfle gwych am ddiwrnod o deithio egnïol. Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli ym Mharc yr Esgob heddychlon sy'n cynnig mannau glaswelltog a meinciau ar gyfer picnic yn ogystal â llwybrau dymunol sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae Amgueddfa Sir Gâr wedi'i lleoli yn Nyffryn Tywi prydferth, sy'n berffaith ar gyfer cerdded a beicio, gyda nifer o lwybrau troed cyhoeddus a Llwybr Dyffryn Tywi gwych gerllaw.
Beicio
Mae Sir Gâr yn enwog fel cartref beicio yng Nghymru gyda nifer o gyfleoedd i feicio ar y ffordd ac oddi arni.
Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli ar un pen Llwybr Dyffryn Tywi, sy'n 16.7 milltir o hyd, a ddisgwylir iddo agor yn llawn yn hydref/gaeaf 2025, gyda'r pen dwyreiniol yn cysylltu â Ffairfach a Llandeilo. Bydd atyniadau fel Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gerddi Aberglasne, a Chastell Dryslwyn i gyd yn hygyrch o'r Llwybr Beicio. Ychydig y tu allan i wal ffin Parc yr Esgob, fe welwch ardal barcio ceir sydd wedi'i neilltuo i'r Llwybr Beicio. Os ydych chi wedi parcio yn rhywle arall neu wedi beicio yma, yna fe welwch rac beiciau wrth ymyl Derbynfa Parc yr Esgob, yn ogystal â gwefrydd beiciau trydan wrth ymyl y mannau parcio hygyrch gyferbyn â mynedfa'r Amgueddfa.
Ar hyn o bryd, mae'r Llwybr Beicio yn mynd â chi o'r Amgueddfa i bentref Nantgaredig, tua phedair milltir i ffwrdd. Bydd camau pellach yn agor drwy gydol y flwyddyn. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer beicwyr, cerddwyr, a chadeiriau olwyn ac yn dilyn llinell yr hen reilffordd o Gaerfyrddin i Landeilo. Mae safleoedd hanesyddol i edrych amdanynt ar hyd y ffordd yn cynnwys tomenni claddu Oes yr Efydd a maen hir dirgel a elwir yn lleol yn Garreg Myrddin!
Yn cysylltu â Llwybr Dyffryn Tywi mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 47 yn rhedeg o Gasnewydd i Abergwaun, gan gynnwys sawl tref a phentref ledled Sir Gâr, fel Llanelli, Y Tymbl, Cross Hands, Porth-y-rhyd, Caerfyrddin, Bronwydd Arms, Talog a Threlech. Bydd dilyn Llwybr 47 i'r de o'r Amgueddfa yn eich tywys i Ardd Fotaneg Genedlaethol enwog Cymru a Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain ac, os oes gennych yr egni, yr holl ffordd i un o'n hamgueddfeydd chwaer - Amgueddfa Parc Howard - yn Llanelli. Bydd mynd tua'r gogledd yn mynd â chi heibio i Reilffordd Stêm Gwili llawn hwyl ac ymlaen i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ysblennydd.
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 hefyd yn cysylltu â Chaerfyrddin a Llanelli drwy'r llwybr arfordirol, gan fwynhau'r golygfeydd godidog ar draws Bae Caerfyrddin a'r Gŵyr, yna'n mynd ymlaen i arfordir Sir Benfro. Dilynwch y llwybr tua'r de i gyrraedd Parc Gwledig Pen-bre sy'n addas i deuluoedd ac stopiwch yng nghanolfan gymunedol fywiog Parc y Bocs yng Nghydweli ar y ffordd. Mae teithio tua'r gorllewin yn cynnig cyfle gwych i ymweld â chartref olaf Dylan Thomas yn y Cartref yn Nhalacharn. Tra byddwch chi yno, prynwch docyn wythnosol sy'n rhoi mynediad i chi yno ac i Amgueddfa Cyflymder gerllaw ym Mhentywyn gymaint o weithiau ag y dymunwch dros 7 diwrnod.
Fel arall, os hoffech chi brofi eich hun yn y lleoliad a ddatblygodd Emma Finucane, enillydd Medal Aur Olympaidd 2024, yna archebwch sesiwn yn Felodrom Caerfyrddin. Mae'r trac wedi'i adnewyddu hwn yn un o'r felodromau hynaf yng Nghymru ac mae'n dyddio'n ôl i 1900.
Cerdded
Os yw cerdded yn well gennych chi, yna mae digon o lwybrau yn lleol ar gyfer pob oed a gallu.
Yn ogystal â Llwybr Dyffryn Tywi hardd uchod, mae dau daith gerdded gylchol sy'n dechrau ac yn gorffen yn yr Amgueddfa, a elwir yn Lwybr Afon Gwili a'r Rheilffordd a Lwybr y Felin Wen a Bryn Myrddin. Mae'r ddwy daith gerdded yn cynnig cyfleoedd i gerdded trwy dirweddau tawel a gweld safleoedd hanesyddol, fel caer Oes yr Haearn 2,000 oed ac olion Gwaith Tunplat Caerfyrddin.
Mae Caerfyrddin ei hun yn dref farchnad ddymunol, a elwir yn 'dref hynaf Cymru', sy'n werth ei harchwilio. Gellir gweld olion ei threftadaeth Rufeinig yng ngweddillion amffitheatr ar gyrion y dref, tra bod castell Normanaidd yn edrych dros Neuadd y Sir ac Afon Tywi. Eglwys San Pedr, ar ben arall Stryd y Brenin o'r castell, yw'r adeilad hynaf sy'n cael ei ddefnyddio'n barhaus yn y dref ac mae allor Rufeinig yn ei phortsh!
I weld mwy yng Nghaerfyrddin a Dyffryn Tywi, mae croeso i chi ofyn i'n tîm Gwasanaethau Ymwelwyr cyfeillgar am argymhellion, gan eu bod i gyd yn Lysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr balch ac achrededig.