O Buckleys i Barc Howard
Priododd y Parchedig James Buckley o Swydd Gaerhirfryn â Maria, merch y bragwr o Lanelli Henry Child yn 1798 ac ymuno â’r busnes. Cymerodd eu plentyn ieuengaf, James, reolaeth dros y cwmni cyfan pan fu farw ei dad yn 1839.
Yn ôl y sôn, roedd James yn achosi pryder mawr i’w rieni, yn gofyn byth a beunydd am arian. Ond, daeth yn ddyn pwysig ym mywyd cymdeithasol, masnachol a gwleidyddol Llanelli. Cafodd ef a’i wraig Elizabeth naw o blant a bu farw yn 1883.
Prynodd James Blasdy Bryncaerau (sef Amgueddfa Parc Howard erbyn heddiw) i’w fab, oedd hefyd o’r enw James, a’i wraig newydd Marianne Hughes. Cafodd y plasty ei weddnewid gan James Buckley Wilson, un o’i gefndryd, rhwng 1882 a 1886, a newidwyd ei enw i Gastell Bryncaerau. Dyma’r tŷ, yn yr arddull Eidalaidd gan Buckley Wilson, a welwch chi heddiw.
Bu farw James Buckley yn 56 oed yn 1895, ac etifeddwyd Castell Bryncaerau gan ei fab James 'Frank' Buckley. Gwerthodd yntau’r eiddo yn 1911 i Syr Edward Stafford Howard, Gwleidydd Rhyddfrydol blaenllaw am £7,750 (tua £840,000 heddiw), ffigur sy’n llawer is na’i wir werth yn ôl y sôn.
Rhoddodd Syr Edward a’i wraig yr Arglwyddes Catharine y tŷ a’r tir yn rhodd i’r dref ym mis Medi 1912. Dyma oedd eu pen-blwydd priodas cyntaf. Cafodd Castell Bryncaerau yr enw newydd Parc Howard i’w hanrhydeddu nhw. Un o amodau’r brydles 999 mlynedd oedd y dylai’r tŷ fod yn lle i’r cyhoedd ei ‘fwynhau’, rhywbeth fel amgueddfa.

Amgueddfa Sir Gâr

Cartref Dylan Thomas
Archwiliwch gartref olaf eiconig Dylan Thomas yn y Cartref—sy'n edrych dros aber Tâf yn Nhalacharn—sydd bellach yn amgueddfa CofGâr gydag arddangosfeydd dilys, ystafell de, siop anrhegion, a'i sied ysgrifennu enwog.

Amgueddfa Parc Howard
Darganfyddwch straeon am orffennol diwydiannol Llanelli yng nghalon y dref, yn ogystal â’i chasgliad enfawr o grochenwaith enwog o’r ardal.

Amgueddfa Cyflymder
Dewch i ddarganfod y profiad newydd sbon yma sy’n addas i deuluoedd ac sy’n adrodd hanes Traeth Pentywyn a’r recordiau cyflymder eiconig a gafodd eu gosod yno

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Yn enwog am ei chastell lleol, mae Cydweli hefyd yn gartref i weithfeydd tunplat hynaf Ewrop. Er bod yr Amgueddfa ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gallwch chi gael newyddion am ddatblygiad y lle hanesyddol hwn yma.