Skip to main content

Ymgysylltu

Mae amgueddfeydd Sir Gâr yno i bawb ac mae llawer o ffyrdd hwyliog iawn o ddysgu am bethau a chael eich ysbrydoli pan fyddwch yn ymweld. Am fod ein hamgueddfeydd yn newid, mae ein gwasanaethau dysgu’n newid hefyd. Yn rhan o hynny, bydd sesiynau wedi eu hwyluso ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Rydym hefyd yn bwriadu cynnig gweithdai a gweithgareddau dysgu newydd ar y safle ac ar-lein yn y dyfodol. Bydd ein partneriaeth sy’n datblygu gyda Pharc yr Esgob yn arwain at brofiad mwy cyfoethog yn Amgueddfa Sir Gâr hefyd.

 

Rhaid sôn yn arbennig am yr Amgueddfa Cyflymder ar y Tir ym Mhentywyn. Mae’r lleoliad yn ysbrydoli rhywun ac yn dangos sut y gall un gymuned fechan Gymreig arwain y ffordd i weddill y byd. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau a chynhyrchu syniadau newydd mewn amgylchedd diogel. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau trawsgwricwlaidd, gyda chysylltiadau â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, llythrennedd, gallu digidol, y dyniaethau, iechyd a lles, a hunaniaeth Gymreig, a defnyddio’r rhain i ddatblygu meddwl beirniadol i ddatrys problemau.

 

Dilynwch y dolenni i ganfod rhagor am y pethau a wnawn, neu cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu.

 

 

Gweithdai Gwyddoniaeth Mawr yn Amgueddfa Cyflymder

Gweithdai gwyddoniaeth ymarferol, hwyliog ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen, CA2, a CA3 – pob un wedi’i gynllunio o amgylch Cwricwlwm i Gymru. Gan ganolbwyntio ar Grymoedd ac Ynni, mae’r sesiynau ymarferol hyn yn meithrin sgiliau meddwl beirniadol ac yn cysylltu’n uniongyrchol ag arddangosfeydd yr amgueddfa. Yn addasadwy i anghenion disgyblion ac wedi’u cynllunio i wella profiadau dysgu pwrpasol.

Adborth ar Ymweliadau Addysgol

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich ymweliadau ag unrhyw un o amgueddfeydd CofGâr yn ein gofal.

 

Os daethoch ag ysgol neu grŵp addysg i amgueddfa CofGâr, cymerwch ychydig funudau i lenwi ein ffurflen adborth fer. Mae eich barn yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a ble gallwn wella, gan sicrhau ein bod yn parhau i gynnig profiadau deniadol, addysgol a chofiadwy i bob dysgwr. Boed yn ymwneud â'r gweithgareddau, yr adnoddau, neu'r gefnogaeth a gawsoch, mae eich adborth yn amhrisiadwy - ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr.