Blychau Benthyg
Mae ein Blychau Benthyg ar gael i gefnogi dysgu creadigol yn ystafelloedd dosbarth a lleoedd cymunedol Sir Gâr. Maen nhw’n cynnwys cymysgedd da o wrthrychau gwreiddiol a chopi, a deunyddiau mewn print.
Mae’r prif adnoddau hanes yn ymwneud â’r Celtiaid, y Rhufeiniaid, Oes y Tywysogion, pobl oes Fictoria a’r Ffrynt Cartref. Mae gennym rai eitemau hefyd i gefnogi dysgu am y Tuduriaid, y Rhyfel Cartref a’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, ond mae cost i’w dalu am unrhyw ddifrod ac i ddiwallu colledion. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Celtiaid a Rhufeiniaid
Copïau o arfau Rhufeinig a gwisg rhyfelwr Celtaidd.
Yn addas i blant 7-11 oed.
Mae rhai gwisgoedd maint oedolion hefyd.
Oes y Tywysogion
Blychau o arfau, helmedau a chleddyfau copi maint llawn. Rhybudd. Trwm. Mae model o gastell a model o dŷ hefyd.
Yn addas i rai 7-14 oed.
Pobl oes Fictoria
Themâu amrywiol, gwisgoedd i blant, ysgol, golchdy.
Addas i blant 7-11 oed.
Y Ffrynt Cartref
Agweddau o’r Ffrynt Cartref yn yr Ail Ryfel Byd
Warden Cyrchoedd Awyr, Byddin y Tir i Fenywod, gweithwyr y ffatrïoedd arfau.
Addas i blant 7-11 oed.