Dysgu
Mae amgueddfeydd Sir Gâr yno i bawb ac mae llawer o ffyrdd hwyliog iawn o ddysgu am bethau a chael eich ysbrydoli pan fyddwch yn ymweld. Am fod ein hamgueddfeydd yn newid, mae ein gwasanaethau dysgu’n newid hefyd. Yn rhan o hynny, bydd sesiynau wedi eu hwyluso ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru. Rydym hefyd yn bwriadu cynnig gweithdai a gweithgareddau dysgu newydd ar y safle ac ar-lein yn y dyfodol. Bydd ein partneriaeth sy’n datblygu gyda Pharc yr Esgob yn arwain at brofiad mwy cyfoethog yn Amgueddfa Sir Gâr hefyd.
Rhaid sôn yn arbennig am yr Amgueddfa Cyflymder ar y Tir ym Mhentywyn. Mae’r lleoliad yn ysbrydoli rhywun ac yn dangos sut y gall un gymuned fechan Gymreig arwain y ffordd i weddill y byd. Bydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig a gofyn cwestiynau a chynhyrchu syniadau newydd mewn amgylchedd diogel. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio sgiliau trawsgwricwlaidd, gyda chysylltiadau â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, llythrennedd, gallu digidol, y dyniaethau, iechyd a lles, a hunaniaeth Gymreig, a defnyddio’r rhain i ddatblygu meddwl beirniadol i ddatrys problemau.
Dilynwch y dolenni i ganfod rhagor am y pethau a wnawn, neu cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich helpu.