Siopa Nadolig gyda'r hwyr yn Amgueddfa Sir Gâr
Angen ysbrydoliaeth am anrheg? Eisiau rhywbeth i'r rhywun arbennig yna? Dewch draw i Amgueddfa Sir Gâr ddydd Gwener 8 Rhagfyr, lle bydd yr Amgueddfa a’r Siop Anrhegion ar agor tan 8:30pm, ochr yn ochr â Ffair Nadolig Parc yr Esgob a Chegin Stacey. Byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o gynnyrch lleol gan gyflenwyr sy'n ymroddedig i gynaliadwyedd, yn ogystal â llyfrau, teganau ac anrhegion ar gyfer pob achlysur. Mae yna ddigonedd o anrhegion wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau’r Amgueddfa hefyd, fel blancedi syfrdanol Melin Tregwynt; llwyau caru cain; a nwyddau ymolchi moethus Myddfai.
Hwyl yr Wyl i'r Teulu
Yn ogystal â chyfleoedd gwych i brynu anrhegion, byddwch hefyd yn cael cyfle prin i weld yr Amgueddfa ar ôl iddi dywyllu!
Bydd pob oriel ar agor, gan gynnwys ein harddangosfa wych ar Daith Campwaith yr Oriel Genedlaethol o’r paentiad Tobias a’r Angel, o Weithdy Andrea del Verrocchio.
Bydd digon o hwyl i blant a theuluoedd hefyd. Mae gennym ni orsaf addurno yn y Brif Neuadd, lle byddwch chi'n gallu gwneud eich addurniadau Nadolig eich hun, y gallwch chi naill ai fynd â nhw adref neu eu hychwanegu at ein coeden Nadolig hardd.
Gallwch hefyd wneud dymuniad a'i ychwanegu at ein Coeden Ddymuniadau yn y Capel. Efallai y bydd Siôn Corn hyd yn oed yn ei wireddu!