Skip to main content

Sêr y Dyfodol

Dyddiad cychwyn
27-05-23
Dyddiad gorffen
21-10-23
Lleoliad
Amgueddfa Cyflymder

Os yw'r byd a ddyluniwn yn cael effaith dda ar ein bywydau, yna mae myfyrwyr, staff, graddedigion a chyn-fyfyrwyr gradd Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rhan flaenllaw i gyflawni hynny. 

 

Mae’r arddangosfa hyn yn arddangos gwaith y myfyrwyr y mae eu dyluniadau’n mynd i’r afael â materion newidiol sy’n dylanwadu ar ein syniadau o’r hyn oedd, beth yw a beth allai dylunio modurol a thrafnidiaeth ei olygu; cynaliadwyedd, effaith gymdeithasol, rhyngwladoliaeth, her i ganfyddiadau am hygyrchedd ac amrywiaeth ac, wrth gwrs, ‘hwyl’!