Skip to main content

Lleisiau Gŵyr yn canu yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Mae'n bleser gennym groesawu Lleisiau Gŵyr yn ôl i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ddydd Iau 29 Chwefror am 11:30yb. Bydd y côr cymunedol poblogaidd yn canu rhai caneuon yn y Capel mewn digwyddiad rhad ac am ddim i bob ymwelydd ei fwynhau. Galwch draw i'w gweld i fwynhau dathliad cynnar o Ddydd Gŵyl Dewi.

Dyddiad cychwyn
29-02-24
Dyddiad gorffen
29-02-24
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Am Lleisiau Gŵyr

Côr cymunedol bychan yng nghefn gwlad de Gŵyr yw Lleisiau Gŵyr. Fe’i sefydlwyd gan Mary Attwell yn 2015. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol fel côr Llanddewi gyda SyM Knelston, a newidiwyd eu henw yn 2022 i adlewyrchu aelodaeth y gymuned ehangach. Ym mis Medi 2023, camodd Mary o’r neilltu fel Cyfarwyddwr a merch leol Mairwen Kirk, a raddiodd o Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd, i gymryd yr awenau.

 

Mae'r côr yn canu repertoire amrywiol ar gyfer lleisiau benywaidd mewn harmoni dwy a thair a hyd yn oed pedair rhan. Mae ganddynt agwedd hamddenol, anffurfiol a chynhwysol tuag at y côr ac maent yn croesawu pawb sy'n mwynhau manteision cyd-ganu a'r ysbryd cymunedol y mae'n ei feithrin.

 

Roedd eu cyngerdd diweddaraf ym mis Rhagfyr pan gynhyrchon nhw'r Concert for Peace, gan berfformio ymhlith eraill, caneuon o The Peacemakers gan Karl Jenkins, gyda cherddorfa fyw. Roeddent yn falch iawn o godi £750 ar gyfer eu helusen fabwysiedig bresennol, Goleudy.