Gweithgareddau Haf 'Stitch In Time
Ymunwch â'r grŵp cyfeillgar ac addysgiadol ‘Stitch in Time’ bob dydd Mercher yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin rhwng 1 a 3pm, yn ystod gwyliau'r haf ar gyfer arddangosiadau a gweithdai hwyliog a diddorol.
Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u hysbrydoli gan ein paentiad terfynol ar Daith Campweithiau'r Oriel Genedlaethol o'r 8 Medi 2023 ymlaen. Mae 'Tobias a'r Angel', o weithdy Andrea del Verrocchio, yn archwilio themâu iechyd, gofal a theithio y byddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw yn y creadigaethau y bydd y grŵp Stitch in Time yn eu dangos.
Bydd y gweithgareddau yn addas ar gyfer ystod eang o oedrannau a galluoedd. Cewch glywed am feddyginiaethau o'r 1400au a gwneud cwdyn i ddal eich rhai chi. Cewch weld harddwch Kumihimo – ffurf Siapaneaidd o blethu. A mwynhewch yr heddwch a'r ymwybyddiaeth ofalgar sy'n dod o bwytho araf.
Nid oes angen archebu lle ac nid oes angen dod â deunyddiau. Dim ond dod ar y dydd!
26 Gorffennaf 2023
Pecynnau llysieuol canoloesol
Arddangosfa ar greu eich pecynnau llysieuol canoloesol eich hun
2 Awst 2023
Botymau Dorset
Tarddiad a rôl y 'botwm Dorset' ac arddangosiad o sut i'w creu
9 Awst 2023
Pwytho araf
Mae 'pwytho araf' yn ffurf gelfyddydol newydd wedi'i hadeiladu ar hen draddodiadau sy'n archwilio'r daith o greu harddwch gydag edau yn hytrach na gweithio tuag at gynnyrch terfynol
16 Awst 2023
Pleth Kumihimo
Mae Kumihimo yn ffurf hynafol Siapaneaidd o blethu gan ddefnyddio nifer o linynnau o gortyn a/neu ruban
23 Awst 2023
Fy mlwyddyn fel aelod o grŵp 'Stitch in Time'
Trosolwg o'r flwyddyn yn cefnogi'r amgueddfa drwy
30 Awst 2023
Trwsio, Mendio a Sashiko
Ffyrdd darbodus ac ecogyfeillgar o fod yn gynaliadwy ffasiynol