Skip to main content

Drysau Agored Cartref Dylan Thomas

Dewch i ymweld â chartref olaf un o hoff feirdd y byd yn rhad ac am ddim gyda thocyn wedi'i archebu ymlaen llaw. Teimlwch yr awyrgylch heddychlon a rhyfeddwch at y golygfeydd hyfryd ar draws yr aber. Deall pam y syrthiodd Dylan Thomas a'i deulu mewn cariad â'r lle.

Dyddiad cychwyn
23-09-23
Dyddiad gorffen
24-09-23
Lleoliad
Cartref Dylan Thomas

Tŷ Cychod Dylan Thomas oedd cartref olaf y bardd Dylan Thomas cyn ei farwolaeth annhymig yn 39 oed yn America. Fe symudodd yno yn 1947 gyda’i wraig Caitlin a’u mab a’u merch, Llewellyn ac Aeronwy. Ganwyd eu mab ieuengaf, Colm, tra oedden nhw’n byw yno.

 

Roedd garej anarferol a adeiladwyd ar stilts ar ochr y clogwyn hefyd yn dod gyda’r eiddo, a llwyddodd Dylan i ddefnyddio hwn fel Sied Ysgrifennu. Wedi’i ysbrydoli gan yr olygfa ar draws yr aber, ysgrifennodd rywfaint o’i waith enwocaf yma, gan gynnwys Under Milk Wood a Do Not Go Gentle.

 

Bydd mynediad i’r Tŷ Cychod yn rhad ac am ddim i bawb sydd wedi archebu ymlaen llaw ar Eventbrite ac sy’n gallu cynhyrchu tocyn dilys wrth fynd i mewn. Byddwch yn ymwybodol, er mwyn sicrhau’r profiad gorau i ymwelwyr, bod tocynnau’n gyfyngedig i 50 y dydd ar draws dwy slot amser. Bydd 25 tocyn am ddim ar gael ar gyfer y slot mynediad 10am-1pm, a 25 ar gyfer 1pm-5pm. 

 

Bydd Drysau Agored yn digwydd ddydd Sadwrn, 23 Medi, a dydd Sul, 24 Medi. Bydd y Tŷ Cychod ar agor rhwng 10am a 5pm ar y ddau ddiwrnod. 

 

Mae darlleniadau barddoniaeth wedi'u gohirio tan ddyddiad diweddarach. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra

 

Angen archebu drwy’r ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/drysau-agored-cartref-dylan-thomas-open-…

 

Cyfeiriad – Tŷ Cychod Dylan Thomas, Llwybr Dylan, Talacharn, SA33 4SD.

https://www.dylanthomasboathouse.com/accessstatement/

 

Mae mynediad i’r tŷ a’r ystafell de i lawr 40 cam i’r tŷ a 10 cam i’r ystafell de a’r ardal patio (a allai fod yn heriol i’r rhai â phroblemau symudedd) lle bydd lluniaeth yn cael ei weini. Does dim mynediad i gadeiriau olwyn na thoiled anabl.

 

Ychydig iawn o drafnidiaeth gyhoeddus sydd i’r Tŷ Cychod. Dim ond gwasanaeth bws 222 o Gaerfyrddin i Bentywyn ar ddydd Sadwrn sydd ar gael.

 

Mae modd parcio ar y blaendraeth o dan y castell ac mae’r Tŷ Cychod tua 10 munud o gerdded i ffwrdd. Mae’n gallu bod yn serth mewn mannau.