Skip to main content

Arddangosiadau Pwytho'r Haf

Dyddiad cychwyn
24-07-24
Dyddiad gorffen
28-08-24
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Arddangosiadau Pwytho'r Haf

 

Ymunwch â’n grŵp gwirfoddolwyr Pwyth Mewn Pryd CofGâr cyfeillgar ac addysgiadol bob dydd Mercher* yn Amgueddfa Sir Gâr, 1-3yp, yn ystod gwyliau’r haf ar gyfer arddangosiadau hynod ddiddorol.

 


Bydd y grŵp yn dangos amrywiaeth o dechnegau pwytho y gallwch chi roi cynnig arnynt eich hun gartref. Mae croeso i chi wylio a dysgu neu ddod â'ch prosiectau pwytho eich hun a phwytho gyda'r grŵp.

 


24 Gorffennaf 2024

Braid Kumihimo

 

Ffurf gelfyddyd hynafol Japaneaidd yw Kumihimo sy'n defnyddio llinynnau lluosog o gortyn a/neu rhuban i greu plethi addurniadol.

 


31 Gorffennaf 2024

Picot wedi'i wehyddu

 

Yn draddodiadol defnyddiwyd picotiaid wedi'u gwehyddu i ddarparu ymylon addurnol i liain a dillad, a brodwaith 'Jacobeaidd' uchel. Yn y sesiwn hon byddwn yn dysgu sut i ddefnyddio’r dechneg hynafol hon mewn lleoliad modern, i greu blodau/adar gyda phetalau/adenydd sy’n sefyll ar eu pen eu hunain.

 


7 Awst 2024

TY AGORED - Dewch i gwrdd â'r grŵp Pwyth Mewn Pryd

 

Gwahoddir ymwelwyr i gwrdd â grŵp ‘Pwyth mewn Pryd’ Amgueddfa Sir Gâr.


Bydd aelodau yn gweithio ar eu prosiectau cyfredol ac yn edrych ymlaen at gwrdd â chi!

 


14 Awst 2024

Crosio

 

Mae crosio yn deillio o wau, ond mae wedi datblygu i fod yn grefft ar wahân. Mae ei enw yn deillio o’r gair ‘croc’ yn Ffrangeg, ac mae’n defnyddio bachyn, nodwydd sengl ac yn cael ei weithio un pwyth ar y tro. Byddwn yn arddangos crosio traddodiadol a Tunisiaidd yn y sesiwn hon.

 


21 Awst 2024

Pwyth Araf

 

Mae ‘Pwyth Araf’ yn ffurf gelfyddydol newydd sydd wedi’i hadeiladu ar hen draddodiadau ac sy’n archwilio’r daith o greu harddwch gydag edau yn hytrach na gweithio tuag at gynnyrch terfynol.

 

 

 

28 Awst 2024

Pwyth Croes a Phwyth Pabell

 


Mae Pwyth Croes yn ffurf boblogaidd o frodwaith edau cyfrif lle mae pwythau siâp X mewn patrwm teils yn cael eu defnyddio i ffurfio llun.


Hanner pwyth croes yw Phwyth Pabell ac fe'i defnyddir yn aml mewn gwaith gwlân, lle mae'r edafedd yn rhy drwchus ar gyfer croesbwyth.

 

 

 

*Byddwch yn ymwybodol y bydd gwaith adnewyddu i rai orielau arddangos ac i’r maes parcio yn digwydd dros yr haf. Efallai y bydd angen i’r Amgueddfa gau ar fyr rybudd neu efallai y bydd mynediad yn gyfyngedig ar rai dyddiau.

 


Bydd mannau cau neu fynediad cyfyngedig yn cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol ac Hafan y wefan cyn gynted ag y byddant yn hysbys.

Am y Gwirfoddolwyr Pwyth Mewn Pryd

 

Mae’r grŵp o wirfoddolwyr Pwytho Mewn Pryd yn cyfarfod yn Amgueddfa Sir Gâr bob trydydd dydd Mercher o’r mis. Maent wedi gweithio gyda'r Amgueddfa yn aml dros y blynyddoedd diwethaf ar lawer o brosiectau. Yn fwyaf nodedig, fe wnaethant ddylunio panel gweadog hardd a ysbrydolwyd gan baentiad Taith Campwaith yr Oriel Genedlaethol o Tobias a’r Angel, a arddangoswyd ddiwedd 2023.

 

 

Maent bellach yn gweithio ar rai dyluniadau cyffrous ar gyfer yr arddangosfa fawr nesaf yn Amgueddfa Sir Gâr: Archwilio'r Hen Aifft. Disgwylir i'r arddangosfa agor yn 2025.

 


Os hoffech ymuno â’r grŵp neu wirfoddoli yn Amgueddfa Sir Gâr , yna cysylltwch â ni ar gwybodaeth@cofgar.cymru.