Skip to main content

Antur Amgueddfa’r Twitchers yn Amgueddfa Parc Howard

Yn ystod gwyliau hanner tymor fis Chwefror, beth am fynd i ymchwilio’r bywyd gwyllt rhyfeddol yn Amgueddfa Parc Howard yn rhan o Antur Amgueddfa’r Twitchers, sydd wedi’i drefnu gan Kids in Museums a Walker Books?

Dyddiad cychwyn
10-02-24
Dyddiad gorffen
25-02-24
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard

Ymunwch â'r llwybr bywyd gwyllt i deuluoedd yn Amgueddfa Parc Howardy gwyliau hanner tymor hwn!

Ymunwch â’r ditectifs gwylio adar, y Twitchers, i archwilio’r adar prydferth a’r anifeiliaid rhyfeddol sydd yn Amgueddfa Parc Howard. Codwch daflen weithgareddau am ddim i ymuno yn yr hwyl a m-wy-nhau gyda’ch teulu. Dewch o hyd i’r ffrindiau pluog i gyd sydd ynghudd yn y casgliad a gwnewch eich addewid eich hun fel teulu i ddiogelu bywyd gwyllt lleol.

 

Os byddwch chi’n gorffen y llwybr, cewch sticer Twitchers am ddim!

 

Bydd mwy na 50 o amgueddfeydd o amgylch Prydain yn cymryd rhan dros wyliau hanner tymor mis Chwefror ac yn annog teuluoedd i fwynhau ymweld â’u hamgueddfa leol. Bydd y gweithgaredd yn rhedeg o 10 Chwefror hyd 25 Chwefror 2024.

 

Bydd cyfle i deuluoedd hefyd gymryd rhan mewn cystadleuaeth dynnu enw o het genedlaethol wy-ch i ennill un o bum bwndel o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres Twitchers. Mae Kids in Museums yn gwahodd plant i ddylunio eu partner eu hunain sy’n aderyn neu’n anifail a rhannu eu llun ar Twitter/X neu Instagram gyda’r hashnod #TwitchersMuseumAdventure a’r tag @kidsinmuseums i gael cyfle i ennill.