Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan CofGâr https://cofgar.cymru
Datblygwyd y wefan hon ac fe'i rheolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo'r testun hyd at 300% heb iddo ollwng oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel dogfen PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
- e-bostiwch gwybodaeth@cofgar.cymru
- ffoniwch 01267 228696
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rydym yn defnyddio Google Maps i ddangos cyfarwyddiadau i'n amgueddfeydd. Os na allwch weld y mapiau ar ein gwefan, ffoniwch 01267 234567 neu anfonwch e-bost atom, gwybodaeth@cofgar.cymru, am gyfarwyddiadau. Rhagor o wybodaeth am hygyrchedd Google Maps.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni'r gofynion o ran hygyrchedd, anfonwch e-bost atom: gwybodaeth@cofgar.cymru
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
As part of Carmarthenshire County Council, CofGâr is committed to making its website accessible, in accordance with the Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.
This website is compliant with the Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 AA standard.
Rydym yn monitro ein gwefan gan ddefnyddio https://accessibe.com/ ac yn defnyddio hwn i nodi a datrys unrhyw broblemau hygyrchedd. Rydym yn ymateb i'r holl adborth a byddwn yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau hygyrchedd a godir. Os yw'r broblem yn ymwneud â system trydydd parti, byddwn yn cysylltu â'r cyflenwr ac yn gofyn iddo ddatrys y broblem hygyrchedd.