Drysau Agored yn Amgueddfa Cyflymder
Darganfyddwch Amgueddfa Cyflymder fel erioed o'r blaen!
Ym mis Hydref eleni, rydym yn lansio rhaglen newydd sbon o deithiau tywys rheolaidd, gan roi cyfle i ymwelwyr archwilio casgliadau a straeon yr amgueddfa yn fanylach.
I ddathlu, rydym yn cynnig rhagolwg unigryw am ddim yn ystod penwythnos Drysau Agored eleni ar 6–7 Medi. Ymunwch ag un o'n teithiau dan arweiniad arbenigwyr a byddwch ymhlith y cyntaf i brofi'r ffordd newydd hon o fwynhau'r amgueddfa.
Mae lleoedd yn gyfyngedig i ddim ond 30 y dydd, felly peidiwch â cholli allan! Ewch i wefan CofGâr a dilynwch y ddolen archebu i sicrhau eich lle heddiw.
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dyddiadau
Dydd Sadwrn 6 Medi 2025
Dydd Sul 7 Medi 2025
Amseroedd
11:00-12:00 bob dydd (15 o bobl y dydd)
14:00-15:00 bob dydd (15 o bobl y dydd)
Lleoliad
Amgueddfa Cyflymder
Tocynnau
Archebwch eich tocyn am ddim