Skip to main content

Profiad Gwaith

Mae ein lleoliadau profiad gwaith yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgol uwchradd roi cynnig ar amrywiaeth eang o rolau ar draws y gwasanaeth amgueddfeydd. Byddwch yn cael dysgu sgiliau newydd a darganfod beth rydym yn ei wneud bob dydd i wneud yn siŵr bod ein profiad ymwelwyr yn rhagorol ar draws unrhyw un o'n pedair amgueddfa sydd ar agor i'r cyhoedd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynd y tu ôl i'r llenni i'n helpu i ofalu am y casgliadau neu baratoi ein rhaglen o ddigwyddiadau.

 


Mae rhai o’r gweithgareddau y gallwch roi cynnig arnynt yn cynnwys:

 

  • Croesawu ymwelwyr a dweud wrthynt am yr amgueddfa

 

  • Helpu i baratoi gweithgareddau teuluol

 

  • Gofalu am y casgliadau gan ddefnyddio sgiliau cadwraeth

 

  • Ysgrifennu postiadau cyfryngau cymdeithasol neu gynnwys gwefan

 

  • Ymchwilio gwrthrychau neu fewnbynnu data

Sampler

Stori Ffion

"Byddwn yn argymell yn fawr gwneud profiad gwaith yma i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes neu guradu..."

Hen lyfrau

Stori Owain

"Mae'r wythnos hon wedi rhoi llawer o brofiad a chipolwg manwl i mi ar sut mae amgueddfa'n rhedeg yn y cefndir..."

Find out more

Gwnewch gais am brofiad gwaith

Bydd y rhan fwyaf o brofiad gwaith ysgolion uwchradd yn cael ei drefnu drwy'r ysgolion eu hunain. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn yn cael ei addysgu drwy’r system ysgolion, tra bod eraill efallai am gael gwybod mwy am brofiad CofGâr cyn gwneud cais. Felly rydym yn croesawu pob ymholiad am brofiad gwaith ar ran pobl ifanc 14-18 oed a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion.

 

I gysylltu, anfonwch e-bost atom yn info@cofgar.wales neu ffoniwch 01267 228696.