Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr yn dod â mewnwelediadau a dealltwriaeth newydd. Ac os hoffech chi ymuno â ni, bydd gwirfoddolwyr yn rhan enfawr o ddyfodol CofGâr. Rydym yn hyderus y gallwn gynnig profiad gwerth chweil i chi. A byddwn ni eisiau dysgu gennych chi hefyd. Gyda'n gilydd gallwn archwilio ac ychwanegu at stori Sir Gaerfyrddin.
Ydych chi'n angerddol am hanes, celf a diwylliant, ac yn awyddus i rannu eich brwdfrydedd gyda chynulleidfaoedd amrywiol? Ydych chi'n mwynhau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'u hysbrydoli?
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am y rolau isod ar gyfer y gwasanaeth amgueddfeydd:

Gwirfoddolwyr Ymgysylltiad Teuluol
Darparu ymweliad eithriadol i deuluoedd sy’n dod â’n casgliadau yn fyw i blant a phobl ifanc.

Gwirfoddolwyr Profiad Ymwelwyr
Ysbrydoli ymwelwyr a gwella eu profiad amgueddfa.

Gwirfoddolwyr Safbwynt Ymwelwyr - Cartref Dylan Thomas
Helpwch ni i adnewyddu Cartref Dylan Thomas a gwella mynediad – ymunwch â ni ar gam pwysig ar y daith gyffrous hon.

Gwirfoddolwyr Atgofion - Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Ydych chi'n angerddol am gadw atgofion a chreu cysylltiadau ystyrlon o fewn cymunedau?
Profiad Gwaith
Dysgwch sgiliau newydd a chael ychydig o hwyl trwy brofiad gwaith mewn amgueddfa CofGâr.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn amgueddfeydd? Neu efallai mai dim ond cariad at hanes sydd gennych chi? Efallai y byddwch hyd yn oed eisiau gweithio ym maes gwasanaeth cwsmeriaid neu farchnata, ond nid ydych wedi dod o hyd i'r llwybr cywir i gyrraedd yno.
Yn CofGâr, gallwn gynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr ysgol uwchradd a fydd yn eich cyflwyno i bob maes o weithio mewn amgueddfeydd, o groesawu ymwelwyr i warchod casgliadau.
Byddwch yn Gyfaill
Cymunedau greodd ein hamgueddfeydd. Cychwynnodd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin yn Amgueddfa Sir Gâr yn 1908. Yn dilyn lobïo gan y cyhoedd, rhoddwyd Parc Howard i Lanelli yn 1912. Gweledigaeth ac ymrwymiad gwirfoddolwyr niferus a achubodd waith tunplat Cydweli yn yr 1970au. A’r farn gref yn lleol a wthiodd am amgueddfa i ddathlu hanes unigryw Pentywyn yn 1996.
Mae ein grwpiau Cyfeillion yn parhau’r traddodiad hir hwn. Lansiodd Cyfeillion Amgueddfa Sir Gâr yn 1989 a Chyfeillion Amgueddfa Llanelli yn 1995. Mae’r ddau grŵp yn trefnu rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau cymdeithasol, sgyrsiau ac ymweliadau. Mae eu gwaith i godi arian wedi ein helpu i brynu llawer o eitemau arwyddocaol i’r casgliad. Mae’r Cyfeillion hefyd yn derbyn gwahoddiadau i agoriadau amgueddfeydd a dangosiadau preifat.