Rhaglen waith gyffrous i ddechrau yn Amgueddfa Sir Gâr
Mae CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin, yn falch iawn o gyhoeddi bydd cam ffisegol cyntaf rhaglen waith gyffrous yn Amgueddfa Sir Gâr yn dechrau ar 19 Ionawr 2026.
Mae'r prosiect i ailddatblygu'r tair oriel ar lawr gwaelod yr Amgueddfa yn cael ei ariannu gan gynllun Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru; cynllun y llwyddodd CofGâr i gael £196,000 ganddo.
Bydd y cyllid yn cefnogi prosiect mawr i drawsnewid y tair oriel yn fannau arddangos newydd bywiog, gan greu cyfleusterau gwell i ymwelwyr. Bwriedir i'r rhaglen waith lawn gael ei chwblhau erbyn Pasg 2026.
Bydd y prosiect yn arwain at orielau mwy hygyrch a chynhwysol, gan arddangos ystod eang o gasgliadau ochr yn ochr ag arddangosfeydd deniadol a rhyngweithiol sydd wedi'u cynllunio i wella profiad ymwelwyr.
Manylion Allweddol
Beth sy'n Digwydd?
Mae tair oriel ar y llawr gwaelod yn Amgueddfa Sir Gâr yn cael eu hailddatblygu.
• Y Brif Neuadd
• Ystafell Fwyta'r Esgob
• Yr Oriel Ddarganfod
Pryd mae'n Digwydd?
19 Ionawr - 27 Mawrth 2026.
Bydd angen cau Amgueddfa Sir Gâr i'r cyhoedd am gyfnod byr ddechrau mis Chwefror tra bo gwaith hanfodol yn digwydd.
Pam mae hyn yn Bwysig?
Chi sydd wedi ysgogi'r newidiadau hyn. Rydym ni wedi gwrando ar eich adborth chi ac yn gwneud yr orielau a'r arddangosiadau yn fwy hygyrch, pleserus ac addas i deuluoedd.
Bydd y prosiect yn golygu:
• Rhagor o wrthrychau, rhagor o storïau, a rhagor i'w ddarganfod.
• Gwell cyfleoedd dysgu i ysgolion a grwpiau addysg, gan gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.
• Rhagor o fannau croesawgar i gymunedau eu llogi ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a gweithgareddau.
• Arddangosfeydd sy'n adlewyrchu ystod ehangach o'r lleisiau a'r storïau sy'n bwysig heddiw.
• Gwell mynediad at gasgliadau, a gwell gofal a diogelwch tu ôl i'r llenni.
Beth sy'n Digwydd?
Bydd y prosiect yn rhoi bywyd newydd i dri man ar y llawr gwaelod: Y Brif Neuadd, Yr Oriel Ddarganfod, ac Ystafell Fwyta'r Esgob.
Y Brif Neuadd
Ar hyn o bryd mae steil y Brif Neuadd yn debyg i sut oedd pan oedd Esgobion Tyddewi yn byw yma.
Byddwn ni'n trawsnewid y lle hwn er mwyn rhoi rhagor o sylw i hanes Hen Balas yr Esgob, gan ganolbwyntio ar thema coffáu.
Drwy gofebau, arferion claddu, portreadau, a cherrig cerfiedig, bydd yr oriel yn annog ymwelwyr i feddwl sut yr aethpwyd ati dros amser i gofio am bobl - pwy sydd wedi cael eu cofio, a sut mae newid mewn gwerthoedd yn newid y ffordd mae pobl yn cofio.
Bydd yr arddangosiadau addas i deuluoedd yn ddechrau trawiadol ac ystyriol i'ch taith drwy stori Sir Gaerfyrddin.

Yr Oriel Ddarganfod
Ar un adeg dyma oedd cartref yr arddangosiadau daeareg ac archaeoleg, ond bellach bydd yr Oriel Ddarganfod yn "amgueddfa o fewn amgueddfa" a fydd yn arddangos gwrthrychau o bob cyfnod yn hanes Sir Gaerfyrddin.
Drwy newid arddangosiadau'n rheolaidd caiff sylw ei roi i themâu fel cynaliadwyedd, bioamrywiaeth, archaeoleg, a chysylltiadau byd-eang y sir.
Bydd gweithgareddau ymarferol, seddau cyfforddus, a chyfleoedd i rannu eich barn yn annog ymwelwyr i dreulio amser yma, ac yn helpu i lunio arddangosiadau'r dyfodol.

Ystafell Fwyta'r Esgob
Roedd Ystafell Fwyta'r Esgob wedi'i rhannu'n dri man arddangos llai o'r blaen. Bydd yr ystafell hon, sydd wedi'i hadnewyddu'n hyfryd, yn ailagor gydag arddangosiad newydd sbon: Creu, Comisiynu, Casglu.
Bydd yr arddangosfa yn gofyn pam mae pobl yn gwneud celf a pham mae celf yn cael ei chomisiynu, ac yn edrych ar sut mae casgliad celf yr Amgueddfa wedi tyfu dros bron i 200 mlynedd.
Bydd yn dathlu creadigrwydd lleol, yn amlygu artistiaid nad oes sylw digonol wedi'i roi iddynt, ac yn gofyn sut mae'r syniadau am beth sydd werth ei gasglu wedi newid dros amser - gan gydnabod hefyd rôl hanesyddol yr ystafell o fewn y Palas.

Pryd fydd yn Digwydd?
Cofiwch mai amserlen fras yn unig yw'r isod a gallai newid
17 - 18 Rhagfyr 2025
Codi'r blociau pren o'r lloriau parquet hanesyddol yn Llyfrgell yr Esgob ac yng Nghoridor y Lifft er mwyn eu hadfer.
19 Ionawr - 1 Chwefror 2026
Gwneud gwaith paratoi cyn dychwelyd y blociau pren wedi'u hadfer.
2 - 13 Chwefror 2026
Cau'r Amgueddfa i'r cyhoedd am ran o'r cyfnod hwn tra bo gwaith hanfodol yn cael ei wneud i'r lloriau yn y Brif Neuadd, Llyfrgell yr Esgob, a Choridor y Lifft.
16 - 22 Chwefror 2026 (Hanner Tymor)
Y lawr cyntaf a Brif Neuadd yr Amgueddfa yn ailagor i'r cyhoedd fel arfer ar gyfer hanner tymor.
23 Chwefror - 27 Mawrth 2026
Gosod arddangosfeydd ac arddangosiadau newydd yn y Brif Neuadd, Ystafell Fwyta'r Esgob, a'r Oriel Ddarganfod.
Pam mae hyn yn Bwysig?
Fe ddwedoch chi, fe wnaethon ni
Eich adborth chi sy'n gyfrifol am y newidiadau cyffrous hyn. Rydym ni wedi gwrando ar eich awgrymiadau, darllen eich sylwadau yn y llyfr ymwelwyr ac ar-lein, ac edrych ar yr ymatebion arolwg. At ei gilydd, maen nhw wedi ein helpu ni i ddylunio orielau a fydd yn fwy croesawgar, hygyrch a phleserus i bawb.
Amgueddfa fwy croesawgar a hygyrch
Bydd yr orielau ar eu newydd wedd yn llefydd haws i symud o'u hamgylch a mwy cyffyrddus i dreulio amser ynddynt. Bydd gwell gosodiadau, goleuadau, a seddau, yn ogystal â deunydd esbonio cliriach, yn helpu ymwelwyr i fwynhau wrth eu pwysau eu hunain.
Rhagor o storïau, a rhagor o leisiau
Bydd yr arddangosiadau newydd yn rhannu ystod ehangach o storïau o orffennol Sir Gâr ac o'n dyddiau ni heddiw. Ochr yn ochr â gwrthrychau cyfarwydd, byddwch chi'n darganfod pobl nad oes sylw teilwng wedi'i roi iddynt, profiadau pob dydd, a chysylltiadau â'r byd ehangach.
Deunydd esbonio cliriach a mwy diddorol
Bydd testun, graffeg ac arddangosiadau newydd yn ei gwneud yn haws deall beth rydych chi'n ei weld a pham mae'n bwysig. Bydd yr orielau yn gofyn cwestiynau ystyriol, yn annog pobl i feddwl, ac yn cefnogi trafodaeth - tra'n parhau i fod yn addas i'r teulu ac yn hawdd i'w dilyn.
Mannau sy'n ennyn chwilfrydedd a gwahodd pobl i ddarganfod
Yn yr Oriel Ddarganfod bydd yr arddangosiadau'n deillio o gasgliadau'r Amgueddfa a byddant yn cael eu newid yn rheolaidd. Bydd gweithgareddau, seddau, a mannau tawelach yn eich annog chi i graffu, cyfrannu, a rhannu syniadau am beth ddylid rhoi sylw iddo nesaf.
Profiad gwell i deuluoedd a dysgwyr
Bydd crynodebau addas i blant, elfennau rhyngweithiol, a llecynnau gweithgareddau yn helpu ymwelwyr iau i ymddiddori yn yr orielau. Bydd yno fannau penodol i ysgolion, teuluoedd a dysgwyr gydol oes ddarganfod, trafod, a bod yn greadigol.
Gofalu'n well am y casgliadau
Y tu ôl i'r llenni, bydd gwell goleuadau, gwell rheolaeth ar yr amgylchedd, a gwell casys arddangos yn helpu i ddiogelu casgliadau'r Amgueddfa. Drwy hyn, bydd modd mwynhau'r gwrthrychau'n ddiogel heddiw a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Amgueddfa sy'n parhau i newid a thyfu
Mae'r orielau hyn wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg. Gallwn ddiweddaru ac adnewyddu'r arddangosiadau dros amser, a fydd yn ein galluogi ni i ymateb i ymchwil newydd ac adborth ymwelwyr, ac wrth i'r syniadau ynghylch pa straeon ddylid eu dweud newid.