Skip to main content

Mae Cymunedau Creu (partneriaeth rhwng Amgueddfeydd High Life yr Ucheldir, CofGâr – Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Sir Gaerfyrddin, a Chanolfan Lieiniau 
Iwerddon ac Amgueddfa Lisburn) yn chwilio am Ddehonglydd Treftadaeth, gyda 
sgiliau ysgrifennu a golygyddol cryf i ddatblygu naratif craidd a chynnwys ar gyfer 
arddangosfa deithiol fawr.

Manylion

Ffi

£15,000 (yn cynnwys teithio a chynhaliaeth)  

 

Cyflwyno Cais

Dylech gyflwyno 1. llythyr eglurhaol a 2. CV (gan gynnwys manylion cyswllt dau unigolyn ar gyfer geirdaon) a chynnwys 3. eich dull arfaethedig. Dylai hyn gynnwys manylion y canlynol:  

eich methodoleg   
amserlen ar gyfer ymweliadau safle arfaethedig a nifer y sesiynau ar-lein,   
dadansoddiad o gyllideb 
addasrwydd a phrofiad (gan roi sylw i’r gofynion hanfodol a dymunol)

 

Ni ddylai’r tair dogfen fod yn hirach na dwy dudalen yr un, a dylid eu hanfon i emmarobinson@carmarthenshire.gov.uk Cydlynydd y Rhwydwaith erbyn canol dydd Iau 6 Awst. 

 

Cysylltwch â Dr Ciaran Toal, Ceidwad Casgliadau, Canolfan Lieiniau Iwerddon ac Amgueddfa Lisburn, os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl. ciaran.toal@lisburncastlereagh.gov.uk  /  02892 447669 / 07816 078706  

 

Rydyn ni’n disgwyl i’r cyfweliadau gael eu cynnal rhwng 17 – 28 Awst  

 

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw broblemau o ran argaeledd ar y dyddiadau yma.  

 

Dyddiad dechrau disgwyliedig – mis Medi 2026 

Diben

Gan weithio ar draws safle’r tair amgueddfa, bydd y Dehonglydd:  

  • Yn cyfuno ymchwil casgliadau sydd eisoes wedi’i wneud yn lleol  
  • Yn gweithio ochr yn ochr â’r tri grŵp o Guraduron Ifanc (un ar bob safle) i wneud yn siŵr bod eu gwaith, eu syniadau a’u safbwyntiau yn ganolog i gynnwys a chyflwyniad yr arddangosfa.    
  • Yn siapio ac yn mireinio cynnwys a dehongliad yr arddangosfa, ar y cyd â staff partner a grwpiau curaduron ifanc  
  • Yn datblygu un naratif cydlynol sy’n cysylltu’r gwahanol ddaearyddiaethau, casgliadau a grwpiau pobl ifanc  
  • Yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o naratif a phwrpas yr arddangosfa.  

 

Bydd yr arddangosfa graidd sy’n deillio o hyn yn teithio ar draws y tri lleoliad partner.   

 


Bydd yr arddangosfa graidd yn cael ei chefnogi gan gynnwys lleol sy’n benodol i bob lleoliad a grwpiau pobl ifanc a chomisiynau creadigol gan artistiaid crefftau treftadaeth 
lleol. 

Cefndir

Prosiect partneriaeth yw Cymunedau Creu, sy’n rhan o Going Places, sef rhaglen gan Art Fund a wnaed yn bosib diolch i gefnogaeth hael gan Gronfa Treftadaeth y Loteri  Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Julia Rausing.  

 

Mae’r rhaglen yn rhedeg dros bum mlynedd, o 2025 tan 2030.  

 

Mae Cymunedau Creu yn archwilio esblygiad traddodiadau creu—gan gynnwys tecstilau, basgedwaith a gwaith metel—drwy gasgliadau amgueddfeydd, arfer cyfoes, a datblygiad grwpiau curaduron ifanc.  

 

Bydd y prosiect:  

  • Yn amlygu arferion crefft sydd mewn perygl ac sy’n esblygu  
  • Yn cefnogi cyd-guradu gyda phobl ifanc  
  • Yn cysylltu straeon lleol â themâu cyffredin ehangach ledled gwledydd Prydain  
  • Yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i bobl ifanc  
  • Yn sicrhau gwaddol allbynnau a systemau prosiect o fewn sefydliadau partner a thimau cyflawni ac ar eu traws  

Bydd yr arddangosfa gyntaf yn cael ei lansio ym mis Mai 2027, gan deithio i:  

  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness  
  • Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin  
  • Canolfan Lieiniau Iwerddon ac Amgueddfa Lisburn 

Cwmpas y gwaith

Ymchwil   

  • Dod â’r ymchwil bresennol a wnaed gan ymchwilwyr lleol / staff prosiect ym mhob amgueddfa bartner at ei gilydd  
  • Gweithio gyda rhestrau hir o wrthrychau a nodwyd o bob casgliad  
  • Tynnu cysylltiadau ar draws daearyddiaethau, gan nodi themâu cyffredin, gwahaniaethau a naratifau  
  • Darparu safbwynt allanol, beirniadol ar gasgliadau a’u dehongliad  

 

Datblygu Cynnwys a Rôl Olygyddol  

  • Datblygu naratif craidd yr arddangosfa, gan sicrhau eglurder, cydlyniant a hygyrchedd  
  • Drafftio testun deongliadol (labeli, paneli, a negeseuon allweddol) fel rhan o friff Dehongli, mewn cydweithrediad â thîm y prosiect a churaduron ifanc 
  • Sicrhau cysondeb o ran tôn, arddull a llais ar draws pob safle  
    Datblygu teitl yr arddangosfa a’r fframio thematig  

 

Cyd-guradu ac Ymgysylltu  

  • Gweithio gyda thri grŵp Curaduron Ifanc (un ym mhob safle)  
    Ymgorffori safbwyntiau ieuenctid wrth ddethol gwrthrychau, themâu a dehongli  
  • Gwneud yn siŵr bod y gwaith o guradu gwrthrychau ac arddangosfeydd yn cael ei arwain gan bobl ifanc   
  • Cefnogi partneriaid i adlewyrchu blaenoriaethau a straeon y gymuned leol yn yr arddangosfa  

 

Dethol Gwrthrychau a Chynnwys  

  • Cefnogi’r gwaith o ddethol grŵp craidd o wrthrychau arddangos, a disgwylir iddynt gynnwys:   
  • 3–5 gwrthrych i bob partner (tua 9–15 i gyd)  
  • Bydd y gwaith dethol yma’n cael ei gefnogi gan un comisiwn creadigol i bob safle a chyfraniadau gan Guraduron Ifanc ym mhob lleoliad.  
  • Cynghori ar gynnwys deongliadol ychwanegol, fel ffilm a chyfryngau digidol  

 

Datblygu Arddangosfa  

  • Paratoi’r briff dylunio arddangosfa ar y cyd â churaduron ifanc a thîm y prosiect  
  • Hysbysu a chyfrannu at ddatblygu briffiau comisiynau artistiaid  
  • Sicrhau cydbwysedd rhwng:   
  • Un naratif graidd i’r arddangosfa  
  • Dehongliad penodol i’r lleoliad a phwyslais lleol  

Cyfraniad Strategol  

  • Nodi themâu sy’n dod i’r amlwg neu gyfleoedd yn y dyfodol y tu hwnt i’r arddangosfa gychwynnol  
  • Cyfrannu gwybodaeth i gefnogi cydweithio a rhaglennu hirdymor  

 

Cydberthnasau Allweddol

Bydd y dehonglydd yn gweithio’n agos gyda’r canlynol:  

  • Ymchwilwyr Lleol (Inverness a Lisburn)  
  • Rheolwr Casgliadau (Sir Gaerfyrddin)  
  • Timau curadurol a phrosiect ar draws y tri phartner  
  • Grwpiau Curaduron Ifanc  
  • Dylunwyr arddangosfeydd  

 

Ciaran Toal, Pennaeth Casgliadau, Canolfan Lieiniau Iwerddon ac Amgueddfa Lisburn, fydd y prif gyswllt drwy gydol y cyfnod, gyda chefnogaeth gan gydlynydd y prosiect (sydd wedi’i leoli yn Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin) a thîm ehangach y prosiect. 

Allbynnau

Bydd y dehonglydd yn cyflwyno’r canlynol:  

  • Cynllun Dehongli ar gyfer yr arddangosfa deithiol; i gynnwys Argymhellion ar gyfer:   
    • Dethol gwrthrychau  
    • Dulliau deongliadol  
    • Cynnwys ffilm/digidol  

 

Ar ôl eu cymeradwyo, bydd yn gwneud y canlynol  

  • Drafftio cynnwys deongliadol (labeli, testun paneli, negeseuon allweddol) a gweithio gydag aelodau tîm y prosiect ar gyfer cyfraniadau a golygiadau  
  • Creu briffiau dylunio a chomisiynu arddangosfeydd (i gynnwys manylion am y dyluniad a’r cynllun) a gweithio ochr yn ochr â dylunwyr a thîm y prosiect i weithredu dyluniad yr arddangosfa.  

 

Amserlen y Rhaglen (Dangosol)

  • Medi 2026 – Cyflwyniad i’r prosiect a chasgliadau  
  • Medi - Rhagfyr 2026 – Ymchwil a datblygu  
  • O fis Medi 2026 ymlaen – Ymgysylltu â grwpiau Curaduron Ifanc 

 

Yn ddelfrydol, rydyn ni’n rhagweld y dylai ymweliadau safle’r Dehonglydd â phob amgueddfa bartner gyd-daro â sesiynau curaduron ifanc, a gynhelir fel arfer ar ddydd Sadwrn, ond rydyn ni’n cydnabod y gallai fod angen dod i gysylltiad â’r Curaduron Ifanc ar-lein.   

 

Dylid mynd i’r afael â’r her amserlennu yma yn eich ymateb i’r briff fel rhan o’ch dull methodoleg.   

 

  • Rhagfyr 2026 – Cadarnhau rhestr o wrthrychau  
  • Diwedd Ionawr 2027 – Rhannu’r Cynllun Dehongli gyda thîm y prosiect i’w gymeradwyo  
  • Chwefror - Mawrth 2027 – Datblygu arddangosfeydd a chwblhau’r cynnwys  
  • Mawrth 2027 - Mai 2027 – Paratoi ac adeiladu’r arddangosfa 
  • Mai 2027 – Lansio’r arddangosfa 

Cyllideb

  • Ffi: £15,000 (yn cynnwys teithio a chynhaliaeth)  
  • Disgwyliad bod y ffi yma’n cynnwys o leiaf 1 ymweliad safle â phob lleoliad partner (3 ymweliad i gyd) 
  • Rhaid cytuno ar yr holl gostau treuliau ymlaen llaw gyda thîm y prosiect  

Monitro ac Adrodd

  • Diweddariadau cynnydd rheolaidd i arweinwyr y prosiect  
  • Cyfrannu at ddogfennaeth y prosiect (gan gynnwys blogiau, adroddiadau a gwerthusiadau) 

Manyleb yr Unigolyn

Hanfodol  

  • Profiad o ddatblygu cynnwys deongliadol neu arddangosfeydd  
  • Sgiliau ymchwil cryf yng nghyd-destunau amgueddfeydd, treftadaeth neu grefftau  
  • Tystiolaeth o allu mewn ysgrifennu a golygu testun ar gyfer cynulleidfaoedd cyhoeddus  
  • Y gallu i gyfosod gwybodaeth gymhleth yn naratifau clir a diddorol  
  • Profiad o ddulliau curadu cydweithredol neu gyd-guradu  
  • Sgiliau trefnu cryf a’r gallu i gyrraedd terfynau amser  

 

Dymunol  

  • Profiad o weithio ar draws mwy nag un safle neu bartneriaeth  
  • Gwybodaeth am draddodiadau crefft, creu treftadaeth neu hanes 
    cymdeithasol  
  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc neu grwpiau cymunedol  
  • Dealltwriaeth o arferion sector amgueddfeydd gwledydd Prydain  

Cyflwyno Cais

Dylech gyflwyno 1. llythyr eglurhaol a 2. CV (gan gynnwys manylion cyswllt dau unigolyn ar gyfer geirdaon) a chynnwys 3. eich dull arfaethedig. Dylai hyn gynnwys manylion y canlynol:  

  • eich methodoleg   
  • amserlen ar gyfer ymweliadau safle arfaethedig a nifer y sesiynau ar-lein,   
  • dadansoddiad o gyllideb 
  • addasrwydd a phrofiad (gan roi sylw i’r gofynion hanfodol a dymunol)

 

Ni ddylai’r tair dogfen fod yn hirach na dwy dudalen yr un, a dylid eu hanfon i emmarobinson@carmarthenshire.gov.uk Cydlynydd y Rhwydwaith erbyn canol dydd Iau 6 Awst. 

 

Cysylltwch â Dr Ciaran Toal, Ceidwad Casgliadau, Canolfan Lieiniau Iwerddon ac Amgueddfa Lisburn, os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl. ciaran.toal@lisburncastlereagh.gov.uk  /  02892 447669 / 07816 078706  

 

Rydyn ni’n disgwyl i’r cyfweliadau gael eu cynnal rhwng 17 – 28 Awst  

 

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw broblemau o ran argaeledd ar y dyddiadau yma.  

 

Dyddiad dechrau disgwyliedig – mis Medi 2026