Cymunedau Gwneud - Hwylusydd Ymgysylltu Cymunedol Llawrydd
Mae Amgueddfa Sir Gâr yn chwilio am artist/gwneuthurwr crefft sydd â phrofiad o ymgysylltu â chymunedau i gynnal gweithdai ymgynghori gyda chymunedau lleol a datblygu cysylltiadau â gwneuthurwyr eraill o Sir Gâr dros gyfnod o 9 mis. Rhoddir y pwyslais ar grefftau treftadaeth leol sydd mewn perygl ac sy'n gysylltiedig â'r arddangosfa deithiol sy’n cael ei churadu ar y cyd sef Cymunedau Gwneud.
Mae Cymunedau Gwneud yn rhan o Mynd Lleoedd, un o raglenni'r Gronfa Gelf sydd wedi cael ei rhoi ar waith gyda chefnogaeth hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Julia Rausing. Mewn partneriaeth â'r Irish Linen Centre and Lisburn Museum a High Life Highland rydym yn datblygu prosiect newydd cyffrous i gefnogi treftadaeth a chrefftau traddodiadol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu sgiliau trwy ddosbarthiadau meistr a sesiynau rhagflas, mynediad i wirfoddolwyr i'r casgliadau, curadu ar y cyd gyda phobl ifanc a digwyddiadau eraill. Penllanw'r prosiect fydd arddangosfa deithiol fawr yn 2027.
Nod
Rydym yn awyddus i greu Grŵp Curaduron a Gwneuthurwyr Ifanc newydd yn Amgueddfa Sir Gâr i gyd-greu arddangosfa a datblygu sgiliau crefftau treftadaeth wedi'u hysbrydoli gan gasgliadau'r Amgueddfa a gwneuthurwyr lleol.
Pwrpas y rôl hon yw ymgynghori â phobl ifanc ar sut y dylid datblygu'r grwpiau hyn a thrwy adeiladu cysylltiadau i recriwtio cyfranogwyr. Trwy eu gwybodaeth am wneuthurwyr a chrefftwyr lleol, byddant hefyd yn helpu i greu'r amserlen o weithdai y bydd y bobl ifanc (16-24 oed) yn cymryd rhan ynddynt.
Lleoliad
Rôl hybrid - gellir gwneud gwaith o bell gyda chyfuniad o gyfarfodydd ar-lein ac yn bersonol gyda'r Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd i drafod cynnydd.
- Datblygu cynllun ymgysylltu â'r gymuned i'w gymeradwyo gan y Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd.
- Datblygu cysylltiadau â grwpiau cymunedol lleol, cyfleusterau addysg a sefydliadau ieuenctid sy'n gweithio gyda phobl ifanc (16-24 oed).
- Cyflwyno cyfres o weithdai byr gyda'r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc (16-24 oed) mewn crefftau treftadaeth a recriwtio gwneuthurwyr a churaduron ifanc naill ai yn yr Amgueddfa, neu drwy gynlluniau allgymorth mewn safleoedd addysg neu gymunedol.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau'n foddhaol ac o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
Monitro a Gwerthuso
Bydd yr hwylusydd yn adrodd i'r Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd.
Bydd yr hwylusydd yn:
- Cyfrannu at ddogfennau’r prosiect a’u defnyddio mewn adroddiadau a chyflwyniadau, yn ogystal â’u defnyddio ar gyfer y gwerthusiad terfynol i bartneriaid allweddol y prosiect. Dylid cyflwyno hyn mewn adroddiad terfynol a fydd yn cynnwys ffotograffau, adborth gwerthuso gan gyfranogwyr mewn gweithdai, manylion cysylltiadau a sefydliadau a fu'n ymwneud â'r prosiect, nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gweithdai; a gwerthusiad o ba mor dda y cyflawnwyd y nodau o ran ymgysylltu â'r gymuned gyda rhaglen awgrymedig ar gyfer y Curaduron a'r Gwneuthurwyr Ifanc yn arwain at yr arddangosfa.
- Darparu adborth rheolaidd a mynychu cyfarfodydd pan fo angen.
Llinell Amser
- Cymeradwyo'r cynllun ymgysylltu â'r gymuned erbyn diwedd mis Medi 2025.
- Cynnal pob gweithdy rhwng 1 Hydref 2025 a diwedd Chwefror 2026.
- Cyflwyno'r adroddiad terfynol a throsglwyddo'r prosiect erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Sgiliau Hanfodol / Dymunol
- Profiad o weithio ar brosiectau ymgysylltu â chymunedau.
- Dealltwriaeth o'r Rhestr Crefftau Treftadaeth a'r gymuned crefftau lleol.
- Tystiolaeth o gyflwyno rhaglenni celf neu grefft wedi'u hanelu at bobl ifanc.
- Digon o Gymraeg i gyflwyno gweithdai i gyfranogwyr sy'n siarad Cymraeg ac i ysgolion Cymraeg.
- Profiad o weithio gyda chasgliadau hanesyddol neu sefydliadau treftadaeth.
- Y gallu i ysgogi ac ennyn brwdfrydedd cyfranogwyr i wneud y gweithgaredd yn hygyrch ac yn hwyliog.
- Sgiliau cadw amser da a'r gallu i wneud y mwyaf o'r allbwn o fewn yr amserlen.
- Sgiliau pendant o ran cynllunio a threfnu.
Ffioedd a Chyllid
Bydd ffi gynhwysol o £5000 yn daladwy yn seiliedig ar gyfartaledd o 16 awr o waith y mis dros gyfnod o 6 mis.
- Mae'r ffi yn cynnwys yr holl gostau teithio, amser teithio ac amser paratoi.
- Gellir prynu deunyddiau drwy'r Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd.
- Gellir gwneud taliadau fesul cam ar ôl derbyn anfonebau a hynny ar gyfnodau penodol y cytunwyd arnynt gyda'r Rheolwr Dysgu ac Arddangosfeydd.
- Bydd yr artist a benodir yn gyfrifol am ei dreth a'i gyfraniadau Yswiriant Gwladol ei hun.
- Rhaid i'r hwylusydd feddu ar ei yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ei hun a thystysgrif DBS gyfredol.
Cais
Gofynnir i artistiaid gyflwyno:
1) CV neu ddolen i wefan.
2) Tystiolaeth o'r sgiliau hanfodol canlynol:
- diddordeb mewn treftadaeth leol.
- y gallu i ymateb yn greadigol i ddeunydd hanesyddol.
- profiad o weithio yn y gymuned.
- y gallu i siarad Cymraeg.
- y gallu i gadw at yr amserlen waith
3) Amlinellu cynnig yn disgrifio sut y byddech yn mynd ati i gyflawni'r prosiect (uchafswm o 300 gair).
E-bostiwch eich cais i ecchapman@sirgar.gov.uk erbyn 5yp ddydd Gwener 15 Awst.