Llogi Llyfrgell yr Esgob
Yn swatio o fewn hen Balas yr Esgob sy’n gartref i Amgueddfa Sir Gâr, mae Llyfrgell yr Esgob yn cynnig man cartrefol ac ysbrydoledig i’w logi. Gyda'i cherfiadau pren Celf a Chrefft syfrdanol ac awyrgylch cain, mae'r ystafell swynol hon yn berffaith ar gyfer cynnal grwpiau cymunedol neu gorfforaethol.
Nodweddion Ystafell:
- Cynhwysedd: Yn darparu lle i hyd at 12 o bobl.
- Cynlluniau Amlbwrpas: Dewiswch o seddau Ystafell Fwrdd neu Theatr i weddu i anghenion eich digwyddiad.
- Mwynderau Modern: Gyda WiFi cyflym a sgrin taflunydd. Mae taflunydd ar gael am ffi fach ychwanegol.
- Lleoliad Delfrydol: Cyfuniad unigryw o dreftadaeth ac ymarferoldeb, yn ddelfrydol ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd bach, neu sesiynau creadigol.
Manylion Llogi
Argaeledd
Dydd Llun i ddydd Sul, 10yb–4yp
Prisiau Llogi (tan 31 Mawrth 2025)
- Yn dechrau o £35 yr awr (o leiaf 2 awr) ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau.
Archebwch Eich Lle
Trochwch eich grŵp yn hanes a swyn Llyfrgell yr Esgob wrth fwynhau cyfleusterau modern. Yn berffaith ar gyfer meithrin creadigrwydd, ffocws a chydweithio, mae'r gofod hwn mor ymarferol ag y mae'n brydferth.
Byddwch hefyd yn cefnogi gwaith pwysig yr Amgueddfa wrth warchod treftadaeth Sir Gâr. Fel amgueddfa mynediad am ddim, rydym yn dibynnu ar incwm o roddion a gweithgareddau masnachol i gynllunio a chyflwyno ein rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous, felly bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i lunio storïwyr yfory.
Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich archeb, dysgu am brisiau o 1 Ebrill 2025, neu i drefnu ymweliad. E-bostiwch gwybodaeth@cofgar.cymru neu ffoniwch 01267 228696. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r berl gudd hon o Amgueddfa Sir Gâr.