Llogi Lleoliad
Dychmygwch eich digwyddiad yn datblygu o fewn muriau syfrdanol a llawn hanes lleoliadau unigryw CofGâr, lle daw hanes Sir Gâr yn fyw ym mhob manylyn.
P’un a ydych chi’n cynllunio priodas, cynhadledd, neu ddathliad preifat, mae ein gofodau’n cynnig lleoliad bywiog gyda’r swyn, cynhesrwydd ac unigoliaeth sy’n gwneud atgofion bythgofiadwy.
Gyda detholiad o fannau hanesyddol a chyfoes, rydym yma i’ch helpu i greu profiad sydd mor ystyrlon ag y mae’n gofiadwy.
Dewch i ni greu hanes gyda’n gilydd yn CofGâr, lle daw eich digwyddiad yn rhan o’n stori.
Lleoedd i'w Llogi
Llyfrgell yr Esgob
Cynhwysedd ystafell: 12 (eistedd). Ar gael: 10yb-4yp. Lleoliad: Amgueddfa Sir Gâr.
Ystafell Ddigwyddiadau
Cynhwysedd ystafell: 60 (sefyll). 45 (eistedd). Ar gael: Dydd/Noswaith. Lleoliad: Amgueddfa Cyflymder.
Oriel Arddangosfa, Amgueddfa Cyflymder
Cynhwysedd ystafell: 36 (sefyll). 12 (eistedd). Ar gael: Dydd/Noswaith ac Arddangosfeydd Lleoliad: Amgueddfa Cyflymder.
Oriel Arddangosfa, Amgueddfa Parc Howard
Cynhwysedd ystafell: 12 (eistedd). Ar gael: Dydd/Noswaith ac Arddangosfeydd Lleoliad: Amgueddfa Parc Howard.
Amgueddfeydd i'w Llogi
Cartref Dylan Thomas, Talacharn
Cynhwysedd: 45 (sefyll). Ar gael: Y tu allan i oriau agor arferol. Yn addas ar gyfer: Priodasau, Gwasanaethau i ddathlu, Digwyddiadau preifat, Grwpiau corfforaethol, Grwpiau cymunedol, Ffilmio/Ffotograffiaeth.
Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn
Cynhwysedd: 180 (sefyll). Ar gael: Dydd/Noson Yn addas ar gyfer: Priodasau, Gwasanaethau i ddathlu, Digwyddiadau preifat, Grwpiau corfforaethol, Grwpiau cymunedol, Ffilmio/Ffotograffiaeth.
Amgueddfa Parc Howard
Cynhwysedd: 150 (sefyll). Ar gael: Dydd/Noson Yn addas ar gyfer: Priodasau, Gwasanaethau i ddathlu, Digwyddiadau preifat, Grwpiau corfforaethol, Grwpiau cymunedol, Ffilmio/Ffotograffiaeth.