Skip to main content

Blychau Benthyg

Mae ein Blychau Benthyg ar gael i gefnogi dysgu creadigol yn ystafelloedd dosbarth a lleoedd cymunedol Sir Gâr. Maen nhw’n cynnwys cymysgedd da o wrthrychau gwreiddiol a chopi, a deunyddiau mewn print.

 

Mae’r prif adnoddau hanes yn ymwneud â’r Celtiaid, y Rhufeiniaid, Oes y Tywysogion, pobl oes Fictoria a’r Ffrynt Cartref. Mae gennym rai eitemau hefyd i gefnogi dysgu am y Tuduriaid, y Rhyfel Cartref a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae'r taliadau ar gyfer y rhain ac ar gyfer ein holl wasanaethau i'w gweld ar waelod y dudalen hon.

 

Os hoffech chi fanteisio ar unrhyw un o'n gwasanaethau, yna cysylltwch â'n Tîm Dysgu cyfeillgar.

Roman oil lamp

 

 

Celtiaid a Rhufeiniaid

Copïau o arfau Rhufeinig a gwisg rhyfelwr Celtaidd.

Yn addas i blant 7-11 oed.

Mae rhai gwisgoedd maint oedolion hefyd.

Norman knight's helmet

Oes y Tywysogion

Blychau o arfau, helmedau a chleddyfau copi maint llawn. Rhybudd. Trwm. Mae model o gastell a model o dŷ hefyd.

Yn addas i rai 7-14 oed.

A Welsh Not

 

Pobl oes Fictoria

Themâu amrywiol, gwisgoedd i blant, ysgol, golchdy.

Addas i blant 7-11 oed.

Women's Land Army armband

Y Ffrynt Cartref

Agweddau o’r Ffrynt Cartref yn yr Ail Ryfel Byd

Warden Cyrchoedd Awyr, Byddin y Tir i Fenywod, gweithwyr y ffatrïoedd arfau.

Addas i blant 7-11 oed.

Yr hyn y gallwn ei gynnig i'ch grŵp addysg

Blychau Benthyg

Llogi am hyd at bythefnos ar y tro

£25.00

Sied Ysgrifennu Dylan Thomas

Defnydd o’r Sied (ar y llwybr i’r Cartref):

Tâl wythnosol o £50.00 + milltiredd

Gweithdai (Rhaglen Graidd)

Gall y rhain fod yn bersonol neu'n rhithwir:

£45.00

Gweithdai (Pwrpasol)

Gweithdai y tu allan i raglen ddysgu graidd tîm dysgu Cofâr:

£50-100 (lleiafswm tâl yr awr).

Gallai hyn gynnwys darparu artist neu arbenigwr llawrydd arall, er enghraifft.

Bydd pris yn cael ei gyfrifo fesul awr yn dibynnu ar ofynion yr ysgol

Pecynnau Adnoddau

Digidol neu argraffedig:

£20.00

Bwndeli â thema

Byddai’r rhain yn cynnwys blwch benthyca, pecyn adnoddau, a gweithdy:

£75.00

Aelodaeth Grŵp Addysg

Tanysgrifiad Blwch Benthyciad Tymhorol

Mae tanysgrifiad un tymor i’n blychau benthyca yn cynnwys defnyddio cymaint o flychau benthyca ag y dymunwch yn ystod y tymor hwnnw:

£100.00 y tymor

Aelodaeth Efydd

Mae aelodaeth blwyddyn yn cynnwys cymaint o flychau benthyg ag y dymunwch ynghyd â gostyngiad o 10% ar ymweliadau ysgol.

£200.00 y flwyddyn

Aelodaeth Arian

Mae aelodaeth blwyddyn yn cynnwys cymaint o flychau benthyca ag y dymunwch ynghyd â hyd at dri ymweliad wedi’u hwyluso:

£300.00 y flwyddyn

Aelodaeth Aur

Mae aelodaeth blwyddyn yn cynnwys cymaint o flychau benthyca a gweithdai ag y dymunwch. Mae hefyd yn dod gyda bag nwyddau o'r siop!

£500.00 y flwyddyn

Dychwelyd i’r Dudalen Ddysgu