Skip to main content

 

 

 

 

Maen Vortipor

Yn fuan yn y 5ed ganrif OC, datgysylltodd Prydain oddi wrth yr Ymerodraeth Rufeinig. Daeth teyrnasoedd i fodolaeth yn y tir a alwn yn Gymru erbyn heddiw.

Roedd y tir lle mae gorllewin Sir Gaerfyrddin heddiw yn rhan o deyrnas Dyfed. Ei frenin enwocaf fyddai Hywel Dda.

Ond mae meini coffa fel hyn gydag arysgrif arnynt yn cefnogi’r syniad bod eu rheolwyr cynnar yn fewnfudwyr o Iwerddon.

 

Ai’r dyn sy’n cael ei gofio ar y garreg hon yw’r ‘mab gwael brenin da’ y cwynodd Gildas amdano yn y 6ed ganrif? Mae arbenigwyr yn anghytuno. Ond, mae’n olwg prin a chyffrous ar gyfnod y byddem wrth ein boddau’n gwybod mwy amdano.

 

Mae’r garreg wedi ei harysgrifio mewn dwy iaith sy’n dweud yr un peth. O dan y groes Gristnogol mae’r geiriau Lladin yn cyfieithu i olygu ‘carreg goffa Voteporix yr Amddiffynnwr’.

 

Mae’r ail arysgrif wedi ei thorri ar hyd ymyl y garreg. Mae hon yn enghraifft o’r wyddor Ogham a ddyfeisiwyd yn Iwerddon. Mae’n galw’r dyn yn Votecorix, sef ffurf Wyddelig ei enw

 

Mae ein meini Cristnogol cynnar yn bwysig. Dyma rai o’r darnau gorau o dystiolaeth o’r cyfnod wedi i’r Rhufeiniaid ymadael.

 

Mae archeolegwyr a haneswyr yn araf gynyddu ein dealltwriaeth o’r ‘Oesoedd Tywyll’ hyn, ond mae gennym lawer iawn o gwestiynau heb eu hateb o hyd.