Skip to main content

I’r Gorllewin: y Celc o’r Oes Efydd Hwyr o Landdeusant

 

 

Celc Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)


1. Celc Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)


Canfod Trysor

Ar ddiwrnod gwlyb a glawog ym mis Tachwedd 2019, roedd Richard Trew yn defnyddio datgelydd metel gyda’i ffrind yng Nghymuned Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, pan ddoth o hyd i rywbeth anhygoel. Wedi’u claddu ychydig islaw wyneb y ddaear, roedd dau ddarn o flaen gwaywffon efydd mawr, yn gorwedd yn wastad un darn ar ben y llall.

 


Galwodd Richard ar ei ffrind yn llawn cyffro, ond roedd ei ddatgelydd metel yn dweud wrtho fod mwy wedi’i gladdu yn y ddaear. Yn ystod y diwrnod hwnnw a’r penwythnos canlynol, byddai Richard yn darganfod 19 o wrthrychau efydd ychwanegol o’r un twll. Mewn geiriau eraill, roedd wedi darganfod celc o’r Oes Efydd.

 


Mae darganfod celc o’r Oes Efydd yn ddarganfyddiad unwaith mewn oes. Claddwyd celc Llanddeusant tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, gan ddyddio i’r Oes Efydd Hwyr yng Nghymru (tua 1150-800 CC). Rhoddodd Richard wybod yn brydlon i Swyddog Cofnodi Canfyddiadau lleol PAS Cymru (Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru). Yna, roedd archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Amgueddfa Cymru yn gallu ymchwilio i’r man lle canfuwyd y celc, gan ymchwilio a chofnodi’r cyd-destun claddu’n ofalus.

2.	Pen bwyell â soced efydd yn cael ei dynnu o’r ddaear gan ddarganfyddwr celc Llanddeusant, Richard Trew (© Richard Trew)


2. Pen bwyell â soced efydd yn cael ei dynnu o’r ddaear gan ddarganfyddwr celc Llanddeusant, Richard Trew (© Richard Trew)



Cofnodi’r eiliad
Pan wnaeth Richard ddarganfod celc Llanddeusant, tynnodd ef a’i ffrind gyfres o ffotograffau wrth i’r arteffactau gael eu codi o’r ddaear. Ynghyd â chanlyniadau’r ymchwiliad i’r man archaeolegol lle canfuwyd y celc, mae’r ffotograffau hyn yn dangos bod y celc wedi’i gladdu mewn pydew wedi’i gloddio’n arbennig, yn bell o unrhyw anheddiad hysbys i bob golwg.

 


Ar ben y celc roedd blaen mawr y waywffon, wedi’i dorri’n ddau gydag un darn yn gorwedd dros y llall. Cafodd gweddill y gwrthrychau eu darganfod islaw, wedi’u pacio’n dynn a’u pentyrru ar ben ei gilydd. Gosodwyd rhai o bennau'r bwyeill ar eu hochr a gosodwyd rhai eraill ar eu gwastad, ond roedd tua thri phen bwyell i bob haen o’r celc. Mae’n ymddangos fel pe bai’r gwrthrychau wedi’u claddu’n ofalus yn y ddaear, efallai fel offrwm i’r tir neu i dduwiau’r Oes Efydd.

 

Beth sydd yn y celc?

Mae’r 20 gwrthrych efydd sy’n ffurfio celc Llanddeusant yn cynrychioli gwahanol agweddau ar fywyd yr Oes Efydd Hwyr.

 

Figure 3. The large spearhead from the Llanddeusant hoard (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


3. Blaen mawr y waywffon o gelc Llanddeusant (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)



Blaenau gwaywffyn ac amgarnau
Byddai’r ddau flaen gwaywffon wedi cael eu cysylltu â phelydrau pren hir ac yn debygol o fod wedi cael eu defnyddio i hela anifeiliaid gwyllt neu ymladd. Mae un blaen gwaywffon yn arbennig o hir, gydag ymylon llafnau wedi’u difrodi’n sylweddol, ac wedi’i dorri yn ddau ddarn yn fwriadol ar ôl iddo gael ei daro gan offeryn cul a heb fin. Mae’n debyg nad oedd modd ei ddefnyddio pan gafodd ei dorri’n ei hanner.

 

 

Figure 4. A spearhead fragment from the Llanddeusant hoard (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


4. Darn o flaen gwaywffon o gelc Llanddeusant (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)

 


Mae darn bach arall o efydd yn perthyn i lafn blaen gwaywffon. Cafodd hwn ei dorri hefyd cyn iddo gael ei gladdu, ond dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i weddill y llafn na phen y soced.

 

Figure 5. Two spear ferrules from the Llanddeusant hoard (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


5. Dau amgarn gwaywffon o gelc Llanddeusant (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)

 


Mae dwy ran fach siâp tiwb yn perthyn i amgarnau gwaywffon – capiau bach a fyddai wedi cael eu gosod ar waelod y paladr pren. Efallai fod y ddau amgarn hyn yn mynd gyda blaenau’r gwaywffyn, ond nid oes unrhyw ffordd o fod yn sicr bod hyn yn wir.

 

Figure 6. A bronze axehead from the Llanddeusant hoard (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


6. Pen bwyell efydd o gelc Llanddeusant (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)


Pennau bwyeill
Byddai pennau’r bwyeill wedi cael eu cysylltu â handlenni pren cyn iddynt gael eu claddu a byddent wedi bod yn offer defnyddiol ar gyfer gwaith coed. Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o bennau’r bwyeill wedi cael eu defnyddio cyn iddynt gael eu claddu.

 

 

Figure 7. A ‘faceted’ bronze socketed axehead with a broken blade (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)

7. Pen bwyell efydd ‘ffasedog’ â soced gyda llafn wedi torri (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)




Figure 8. The small mis-cast bronze axehead that was never prepared for use (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


8. Y pen bwyell efydd bach wedi’i gam-fwrw ac na chafodd ei baratoi erioed ar gyfer ei ddefnyddio (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)


Yng ngwaelod y pydew hynafol, darganfuwyd pen bwyell bach. Mae ganddo ochrau miniog a phigog, llafn heb ei drin, a phedwar stwmp o amgylch ceg y soced. Mae’r arwyddion hyn yn dweud wrthym ei fod wedi’i fwrw ac na chafodd ei baratoi erioed ar gyfer ei ddefnyddio. Mae dau dwll bach hefyd drwy un o’i wynebau – diffygion bwrw a achoswyd, mae’n debyg, gan nad oedd yr efydd tawdd yn ddigon poeth pan gafodd ei dywallt. Gall y diffygion hyn esbonio pam na ddefnyddiwyd y pen bwyell hwn erioed, ond pam y cafodd ei gladdu ac nid ei ailgylchu?

 

Figure 9. The broken bronze axehead with a blocked socket (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


9. Y pen bwyell efydd wedi torri gyda soced caeedig (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)




Celc o fewn celc
Mae un o bennau’r bwyeill yn cynnwys tri darn efydd bach sydd wedi’u stwffio y tu mewn i’w soced. Mae dau o’r darnau’n denau ac efallai eu bod unwaith wedi ffurfio rhan o lestr, powlen neu grochan efallai. Mae’r trydydd darn yn perthyn i un pen o addurn efydd bach, breichled mae’n debyg.

 

 

Figure 10. View looking down at the bronze axehead with a blocked socket (©Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


10. Edrych i lawr soced y pen bwyell caeedig (©Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)


Cafodd ymylon toredig y pen bwyell hwn eu cau â morthwyl o amgylch y tri darn yma, gan sicrhau nad oedd unrhyw ffordd iddynt ddianc. Mae hon yn ffenomen ryfedd a welir nid yn unig ledled Prydain, ond hefyd mewn rhannau helaeth o gyfandir Ewrop.

 

Figure 11. Different views of the casting jet from the Llanddeusant hoard (© Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)

 

 

11. Gwahanol olygfeydd o’r jet bwrw o gelc Llanddeusant (© Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)



Y jet bwrw
Yn olaf, mae gwrthrych bach, braidd yn annodweddiadol ei olwg – jet bwrw. Maen nhw’n cynrychioli’r efydd gormodol a fyddai wedi ffurfio yn ystod gwaith bwrw gwrthrych arall. Mae jetiau bwrw’n ymddangos mewn celciau’r Oes Efydd Hwyr o dde Prydain yn rheolaidd ac efallai eu bod wedi cael eu cyfnewid fel math o ddeunydd crai.

 

Gwahanol arddulliau, gwahanol lefydd

Figure 12. A ‘South Wales Type’ axehead from the Llanddeusant hoard (© Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)

 

 

12. Pen bwyell ‘Arddull De Cymru’ o gelc Llanddeusant (© Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)

 

Mae llawer o bennau’r bwyeill â soced o gelc Llanddeusant yn perthyn i arddull a elwir yn ‘Arddull De Cymru’. Mae’r pennau hyn wedi’u canfod ledled Prydain, Iwerddon a gogledd Ffrainc, ond maent yn fwy cyffredin mewn niferoedd mwy o fewn celciau ac fel darganfyddiadau unigol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’n debyg bod y bobl sydd wedi claddu’r celc hwn yn rhan o’r rhwydwaith rhanbarthol hwn, wedi’u cysylltu â chyfnewid rheolaidd ac ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth.

 

Figure 13. The ‘Breiddin Type’ axehead from the Llanddeusant hoard (© Carmarthenshire Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


13. Y pen bwyell ‘Arddull Breiddin’ o gelc Llanddeusant (© Amgueddfa Sir Gaerfyrddin/Amgueddfa Cymru)

 


Claddwyd mathau eraill o bennau bwyeill hefyd yng nghelc Llanddeusant, gan gynnwys un a enwyd ar ôl y Breiddin – bryngaer yng Nghrugion, Powys, a feddiannwyd yn ystod yr Oes Efydd Hwyr a’r Oes Haearn. Mae bwyeill Breiddin i’w canfod yn fwy cyffredin yng ngogledd Cymru a’r Gororau. Nid yw’n glir sut y daeth i fod yn rhan o'r celc hwn, ond efallai ei fod wedi cyrraedd drwy fasnach neu wedi teithio gyda phobl a oedd wedi’i gael o rywle arall.

Rhan o fyd ehangach

Map 1. This map shows West Wales in the context of western Britain. Yellow squares mark the locations of Late Bronze Age hoards (Contains Ordnance Survey data licensed under the Open Government Licence v3.0)


Map 1. Mae’r map hwn yn dangos gorllewin Cymru yng nghyd-destun gorllewin Prydain. Mae sgwariau melyn yn nodi lleoliadau celciau'r Oes Efydd Hwyr (mae’n cynnwys data’r Arolwg Ordnans sydd wedi’i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f3.0)

 

Roedd yr Oes Efydd Hwyr yn gyfnod pan gafodd llawer iawn o waith metel ei gasglu a’i gladdu ledled Prydain a chyfandir Ewrop. Fodd bynnag, tan yn ddiweddar, ychydig iawn o dystiolaeth oedd yna am y bobl a oedd yn byw yng ngorllewin Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Rydym eisoes wedi gweld sut mae celc Llanddeusant yn ychwanegu at y darlun hwn, ond sut mae’n cymharu â darganfyddiadau diweddar eraill?

 

Figure 14. One of two Late Bronze Age hoards from Llangeitho Community, Ceredigion (© Ceredigion Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


14. Y celc cyntaf o ddau o’r Oes Efydd Hwyr o gymuned Llangeitho, Ceredigion (© Amgueddfa Ceredigion/Amgueddfa Cymru)

 


Ym mis Ionawr 2020, tua 40km i ffwrdd o fan darganfod celc Llanddeusant, roedd dau berson yn defnyddio datgelyddion metel i archwilio cae yng nghymuned Llangeitho yng Ngheredigion. Wrth chwilio’r ardal hon, daethon nhw o hyd i ddau gelc o’r Oes Efydd Hwyr, wedi’u claddu dim ond 10 metr oddi wrth ei gilydd. Wedi’u caffael yn ddiweddar gan Amgueddfa Ceredigion, dyma’r celciau cyntaf yn y rhanbarth o'r Oes Efydd Hwyr sydd ar gael i bobl eu gweld a’u hastudio.

 

Figure 15. The copper ingot from the first of the two hoards from Llangeitho Community, Ceredigion (© Ceredigion Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


15. Yr ingot copr o Gelc Llangeitho 1 (© Amgueddfa Ceredigion/Amgueddfa Cymru)

 


Mae’r cyntaf o’r ddau gelc o gymuned Llangeitho yn cynnwys blaenau gwawyffyn, pennau bwyeill, breichledi, pin gwisg, cyllell â soced, cŷn, darnau o lafn a jet bwrw. Dyma’r unig gelc o’r Oes Efydd Hwyr o dde-ddwyrain a gorllewin Cymru y gwyddys amdano, hyd yma, i gynnwys gemwaith cyflawn. Mae breichledi cyflawn i’w gweld yn fwy cyffredin mewn celciau o ogledd Cymru a’r Alban. Mae yna ingot copr hefyd, a allai fod wedi’i gludo i’r rhan hon o Geredigion o gyn belled i ffwrdd ag Awstria neu dde-orllewin Sbaen.

 

Figure 16. The second Late Bronze Age hoard from Llangeitho Community, Ceredigion (© Ceredigion Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


16. Yr ail o ddau gelc o’r Oes Efydd Hwyr o gymuned Llangeitho, Ceredigion (© Amgueddfa Ceredigion/Amgueddfa Cymru)

 


Mae’r ail o’r ddau gelc o gymuned Llangeitho yn cynnwys 16 pen bwyell â soced, dwy aing gau, darn o lafn cleddyf a chwe jet bwrw. Mae rhai o’r pennau bwyeill o Arddull De Cymru, ond mae llawer ohonynt o arddull sy’n fwy cyffredin yng ngogledd Lloegr a’r Alban. Gyda’i gilydd, mae’r gwahanol arddulliau hyn o bennau bwyeill yn awgrymu bod cymunedau lleol wedi mwynhau cysylltiadau pellgyrhaeddol, gan fewnforio gwrthrychau o bob cwr o Brydain o bosibl.

 

Figure 17. Four bronze axeheads from the second Late Bronze Age hoard from Llangeitho Community, Ceredigion (© Ceredigion Museum/Amgueddfa Cymru - Museum Wales)


17. Pedwar pen bwyell efydd o Gelc Llangeitho 2 (© Amgueddfa Ceredigion/Amgueddfa Cymru)

 

Gyda’i gilydd, mae’r tri chelc hyn yn dangos sut roedd pobl a oedd yn byw yng ngorllewin Cymru yn rhan o stori Oes Efydd Ewrop. Diolch i ddatgelyddwyr metel cyfrifol fel Richard, bydd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn gallu gweld, mwynhau ac ymchwilio i’r grwpiau diddorol hyn o wrthrychau.

 

Nodiadau a chydnabyddiaethau

Datganwyd celc Llanddeusant yn Drysor ym mis Mai 2022 ac fe’i caffaelwyd gan Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn 2023. Bydd yn cael ei arddangos â balchder yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin rhwng 6 Gorffennaf a 6 Medi 2024, ynghyd ag un o’r celciau o gymuned Llangeitho.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Drysor, ewch i: https://amgueddfa.cymru/trysor/

 

 

I ddarganfod pa olion archaeolegol sydd wedi cael eu cofnodi yn eich ardal chi, gallwch fynd i wefan y Cynllun Henebion Cludadwy yn https://finds.org.uk/