Croeso i'r Prosiect Chwalu Ffiniau
Dathlu Menywod mewn Chwaraeon o Sir Gâr
Am y Prosiect
Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r Prosiect Chwalu Ffiniau—prosiect Treftadaeth Chwaraeon newydd cyffrous sy’n canolbwyntio ar dynnu sylw at lwyddiannau anhygoel menywod ym myd chwaraeon o Sir Gâr, ddoe a heddiw. Ein cenhadaeth yw anrhydeddu a dathlu’r menywod hyn, y mae eu straeon yn aml wedi’u hanwybyddu, ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched a menywod ifanc i ddilyn eu hangerdd mewn chwaraeon.
Mae Chwalu Ffiniau yn ceisio datgelu hanesion cudd, tynnu sylw at gyfraniadau menywod mewn chwaraeon, ac ail-lunio treftadaeth chwaraeon gyfoethog Sir Gâr gyda naratif mwy cytbwys a chynhwysol.
Cymerwch Ran - Rhannwch Eich Stori!
Rydyn ni'n galw arnoch chi - menywod chwaraeon lleol, clybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol ac unigolion. P’un a ydych chi’n athletwr benywaidd yn y gorffennol neu’r presennol, yn hyfforddwr, neu’n angerddol am chwaraeon menywod, rydyn ni eisiau clywed eich stori!
- Oeddech chi'n rhan o dîm a dorrodd dir newydd?
- A oes gennych chi atgofion o ferched chwaraeon yn gwthio ffiniau mewn rasio moduron, snwcer, criced, dartiau, neu chwaraeon eraill?
- Ydych chi wedi goresgyn heriau i lwyddo mewn camp a ddominyddir yn draddodiadol gan ddynion?
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod stori i'w hadrodd, byddem wrth ein bodd yn cysylltu. Ymunwch â ni i ddadorchuddio a dathlu arwyr di-glod hanes chwaraeon Sir Gâr.
Beth Rydyn ni'n ei Wneud
- Ymgysylltu â'r Gymuned: Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu deinamig ac arddangosfeydd dros dro ledled y gymuned - gan gysylltu clybiau chwaraeon, colegau, a grwpiau lleol i dynnu sylw at gyfleoedd mewn chwaraeon menywod ac arddangos straeon ysbrydoledig gan menywod chwaraeon lleol.
- Pobl Ifanc yn Arwain y Ffordd: Gyda chefnogaeth colegau a stiwdios ffilm, rydym yn grymuso grŵp o bobl ifanc i ddogfennu’r straeon anhygoel hyn ar ffilm. Byddan nhw’n cyfweld â menywod y byd chwaraeon o’r gorffennol a’r presennol, gan ennill sgiliau cyfweld, ffilmio ac adrodd straeon ar hyd y ffordd.
- Arddangosfa Dathlu: Bydd y prosiect yn dod i ben gydag arddangosfa dros dro gyffrous yn Amgueddfa Parc Howard. Bydd yr arddangosfa unigryw hon, a luniwyd gan y straeon a'r ffilmiau a ddarganfyddwn, yn cynnwys bywgraffiadau o wragedd chwaraeon nodedig, pethau cofiadwy, ffotograffau, arteffactau personol, a recordiadau hanes llafar. Gyda’n gilydd, byddwn yn dod â llwyddiannau rhyfeddol athletwyr benywaidd Sir Gâr yn fyw.
Pam Mae'n Bwysig
Am gyfnod rhy hir, roedd y byd chwaraeon yn cael ei ddominyddu gan lwyddiannau dynion. Ond mae menywod o’n cymuned wedi gwneud cyfraniadau rhyfeddol i chwaraeon—gan chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau mewn meysydd fel rasio ceir, snwcer, criced, a dartiau. Nod Chwalu Ffiniau yw newid y naratif hwnnw, gan ddarparu cydnabyddiaeth lle mae’n hen bryd a chreu etifeddiaeth ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cysylltwch
Oes gennych chi stori i'w rhannu neu'n nabod rhywun sydd â stori? Rydym yn awyddus i glywed gennych!
- Llenwch y ffurflen Chwalu Ffiniau
- E-bostiwch ni: gwybodaeth@cofgar.cymru
- Ffoniwch ni: 01267 228696
- Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau a chyhoeddiadau digwyddiadau
Ymunwch â ni yn Chwalu Ffiniau a helpwch ni i ailysgrifennu hanes chwaraeon Sir Gâr gyda lleisiau’r menywod anhygoel sydd wedi paratoi’r ffordd!
Gyda’n gilydd, gallwn greu cynrychiolaeth fwy cytbwys a chynhwysol o hanes chwaraeon Sir Gâr, gan sicrhau bod cyfraniadau menywod yn cael eu dathlu a’u cofio.