Skip to main content

Y Llwybr Diod Hud

Ymunwch â’r Llwybr Diod Hud yn Amgueddfa Sir Gâr yn ystod hanner tymor yr Hydref hwn. Chwiliwch am gynhwysion coll, cwblhewch ryseitiau hudolus ac enillwch wobr!

Dyddiad cychwyn
25-10-25
Dyddiad gorffen
02-11-25
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Y Llwybr Diod Hud

Mae’r Llwybr Diod Hud  yn ôl yn ystod hanner tymor mis Hydref – ac mae angen eich help chi arnom ni! Mae staff ein hamgueddfa i gyd wedi cael salwch dirgel, a’r unig ffordd i wella  yw cwblhau rhai ryseitiau arbennig iawn. Allwch chi ddod o hyd i’r  cynhwysion coll a bragu’r ddiod i’n gwneud ni’n iach eto?


 
Yn ystod y cyfnod canoloesol yn Sir Gâr , os oeddech chi’n teimlo’n sâl efallai  y byddech wedi gofyn am gymorth gan  Feddygon enwog Myddfai . Gan ddefnyddio perlysiau, blodau a meddyginiaethau naturiol eraill, roedd y   iachawyr medrus hyn yn creu diod i drin  cleifion. Wedi’i  hysbrydoli gan hyn , mae’r amgueddfa wedi cymysgu ei diodydd  hudolus ei hun – ond yn anffodus oherwydd ein salwch , rydyn niwedi colli rhai o’r cynhwysion hanfodol.


 
Dilynwch y Llwybr Diod Hud  o amgylch yr amgueddfa, datryswch y cliwiau a dewch o hyd i’r perlysiau a’r gwrthrychau cudd sydd eu hangen i gwblhau’r ryseitiau. Gyda’ch help chi, bydd y ddiod hud yn cael ei  hadfer, y salwch yn diflannu , a byddwch chi’n ennill gwobr haeddiannol am eich ymdrechion.


 
Mae’rLlwybr Diod Hud yn £2.50 y llwybr ac yn hwyl i bob oed. Mae'n weithgaredd teuluol perffaith yn ystod gwyliau hanner tymor.  Ar gael bob dydd o ddydd Sadwrn 25 Hydref i ddydd Sul 2 Tachwedd yn Amgueddfa Sir Gâr.

Gwybodaeth am Weithgaredd

Dyddiadau

Dydd Sadwrn, 25 Hydref 2025 - Dydd Sul, 2 Tachwedd 2025

 

Amser

Bob dydd, 10yb - 5yp

 

Lleoliad

Amgueddfa Sir Gâr

 

Pris

£2.50 y llwybr