Skip to main content

Y Gymru Ramantaidd

Archwiliwch Gymru Rhamantaidd drwy JMW Turner a'i gyfoeswyr, gan gynnwys llyfrau braslunio prin, tirweddau Cymru a chelf Neo-Rhamantaidd yn Sir Gâr.

Dyddiad cychwyn
03-05-26
Dyddiad gorffen
16-10-26
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Y Gymru Ramantaidd: Turner a'i gyfoedion

Arddangosfa newydd gyffrous a ariennir gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund sy'n dwyn ynghyd dirweddau Cymreig gan J M W Turner ac artistiaid Rhamantaidd Prydeinig eraill o gasgliadau gan gynnwys y Tate, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma'r tro cyntaf i un o lyfrau braslunio Turner fod ar gael i'w weld yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn ei ymweliad â De Cymru ganrifoedd yn ôl. Ochr yn ochr â hyn, bydd darluniau eraill o'r sir megis Castell Llanymddyfri a Melin Llanddowror ar gael i'w gweld. 

 


Bydd Y Gymru Ramantaidd yn rhoi sylw i ymateb artistig yn dilyn cynnwrf gwleidyddol a chwyldro diwydiannol y 18fed a'r 19eg ganrif. Bydd yn bwrw golwg ar sut y teithiodd yr artistiaid Rhamantaidd i Gymru i ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn ei chestyll mawreddog, tirweddau gwledig amrywiol a hanes a chwedlau sy'n ennyn atgofion. Ochr yn ochr â gweithiau Turner, bydd paentiadau gan Samuel Palmer, David Cox Sr, Richard Wilson, William Havell a Paul Sandby gyda thirweddau Cymru yn sail iddyn nhw. 

 


Bydd printiau, cyfnodolion a chanllawiau teithio o gasgliadau CofGâr ei hun yn goleuo'r cyfnod diddorol hwn o hanes artistig a hanes llenyddol. 

 


Bydd yr arddangosfa hefyd yn edrych ar sut y daeth newid diwylliannol a gwleidyddol tebyg yn yr 20fed ganrif â grŵp newydd o artistiaid 'Neo-Rhamantaidd' gan ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn Ne Cymru. Bydd gweithiau John Piper a Graham Sutherland, sef darluniau dwys o'r dirwedd leol, hefyd yn cael eu harddangos. 

Manylion yr Arddangosfa

Dyddiadau

3 Mai - 16 Hydref 2026

 

Lleoliad

Yr Oriel Arddangosfa Dros Dro

Amgueddfa Sir Gâr, Hen Balas yr Esgob, Abergwili, SA31 2JG

 

Pris

£5 rhodd argymelledig