Skip to main content

Helfa Wyau Pasg

Dyddiad cychwyn
20-04-25
Dyddiad gorffen
20-04-25
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard

Helfa Wyau Pasg

Dewch i ddathlu Sul y Pasg gyda Helfa Wyau Pasg hwyliog a chyfeillgar i deuluoedd yn Amgueddfa Parc Howard ar 20 Ebrill 2025. Mae’r gweithgaredd hwyliog hwn yn £3 yr un ac yn gwahodd plant a theuluoedd i grwydro’r amgueddfa i chwilio am farcwyr Wyau Pasg.

 

Mae pob marciwr yn dal llythyren arbennig - dewch o hyd iddyn nhw i gyd i ddadorchuddio gair hud y Pasg. Unwaith y byddwch wedi cracio’r cod, dychwelwch i hawlio eich gwobr Wy Pasg yn yr amgueddfa.

 

Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i bob oed ac yn cynnig ffordd wych o archwilio’r hyn sydd gan yr amgueddfa i’w gynnig a mwynhau her ysgafn sy’n cyfuno hwyl a darganfod. Mae'r llwybr wedi'i gynllunio i fod yn hunan-dywys, felly gallwch chi gymryd rhan ar eich cyflymder eich hun unrhyw bryd yn ystod oriau agor ar y diwrnod.

 

Does dim angen archebu lle o flaen llaw – dewch draw i gychwyn ar eich antur Pasg. Peidiwch ag anghofio edrych ar beth sydd ymlaen yn yr amgueddfa tra byddwch chi yma.

 

Dewch draw am ddiwrnod o hwyl tymhorol a syrpreis y Pasg yn Amgueddfa Parc Howard.