Gwneud Coronau Tylwyth Teg
Ymunwch â'n grŵp Pwytho Mewn Amser i greu eich coron tylwyth teg hudolus eich hun mewn gweithdy hwyliog ac ymarferol i blant ysgol gynradd. Sesiynau ar 20 Awst, bore a phrynhawn.
Gwnewch Goronau Tylwyth Teg gyda'n grŵp Pwytho Mewn Amser
Camwch i fyd hud a chreadigrwydd gyda'n grŵp o wirfoddolwyr Pwytho Mewn Amser wrth iddynt eich tywys trwy wneud eich coron tylwyth teg eich hun.

Ymunwch â ni yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Sir Gâr ddydd Mercher 20 Awst am ddwy sesiwn ryngweithiol.
Mae'r gweithdai hyn wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer plant oedran ysgol gynradd, a rhaid i riant neu warcheidwad fod yn bresennol drwy gydol y sesiwn.
Dewch draw, byddwch yn greadigol, a chymerwch goron addas ar gyfer tylwyth teg coetir adref!
Gwybodaeth am Weithgaredd
Dyddiad
Dydd Mercher 20 Awst
Amseroedd
10yb - 12yp
1yp - 3yp
Lleoliad
Prif Neuadd, Amgueddfa Sir Gâr
Tocynnau
Am ddim - dim angen archebu.