Skip to main content

Gweithdy Crefft a Dawns

Ymunwch â ni yn ystod Gŵyl Banc Calan Mai am weithdy crefft a dawns llawn hwyl dan arweiniad Freya o Forest Friends Theatre.

Dyddiad cychwyn
04-05-26
Dyddiad gorffen
04-05-26
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Gweithdy Crefft a Dawns

Ymunwch â ni yn ystod Gŵyl Banc Calan Mai am weithdy crefft a dawns llawn hwyl dan arweiniad Freya o Forest Friends Theatre.

 

Bydd y gweithdy awr yn cynnwys:

 

  • Gweithgareddau crefft
  • Gemau dawnsio
  • Twmpath a dawnsio gwerin
  • A llawer mwy!

 

Bydd y gweithdy'n para tuag awr. Mae'n rhaid i o leiaf un oedolyn fesul plentyn neu deulu aros yn yr ystafell yn ystod y gweithdy. Mae croeso i chi ymuno â'r hwyl!

 

Mae croeso i bob oedran ac mae croeso i chi wisgo eich gwisg orau ar gyfer Calan Mai – mae hyn yn cynnwys yr oedolion!

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad

Dydd Llun, 4 Mai 2026

 

Amser

11am - 12pm

 

Lleoliad

Amgueddfa Sir Gâr, Hen Balas yr Esgob, Abergwili, SA31 2JG

 

Pris

£8 y plentyn (gall rhieni a babanod ymuno am ddim).

 

Archebu

Cael eich tocyn yma

Archebwch nawr